Fioedd priodas a partneriaeth sifil
Isod ceir ffioedd a chostau i 1 Ebrill 2019 tan 31 Mawrth 2020.
- Rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil £35 (y person)
- Cofrestrydd Arolygol i ystyried ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain - £50
- Y Cofrestrydd Cyffredinol i ystyried ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain - £75
- Seremoni yn y Swyddfa Gofrestru Statudol, Tŷ Penallta (ystafell lai ar gyfer cwpl a 2 o dystion yn unig) £46
- Seremonïau yng Nghraig Penallta, Tŷ Penallta (ystafell seremoni fwy o faint gyda lle i hyd at 70 o westeion)
- £221 (dydd Llun i ddydd Gwener)
- £300 (dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc)
- Seremonïau mewn lleoliadau eraill a gymeradwywyd
- £286 (dydd Llun i ddydd Gwener)
- £410 (dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc)
- Priodas neu bartneriaeth sifil mewn adeilad crefyddol ac eithrio'r Eglwys yn Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru, y ffi i gofrestrydd fod yn bresennol yw £86
- Priodas yn yr Eglwys yn Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru - Bydd gwybodaeth am ffioedd ar gael oddi wrth ficer yr eglwys lle'r ydych yn dymuno priodi.
Ffioedd ychwanegol eraill sy'n daladwy dan rai amgylchiadau
- Uwch Arolygydd Cofrestru i fynychu lleoliad tu fas i'w swyddfa i dderbyn hysbysiad priodi oddi wrth berson sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan warchodaeth - £47 caeth i'r tŷ, £68 dan warchodaeth
- Uwch Arolygydd Cofrestru i fynychu er mwyn cynnal priodas ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad - £84 caeth i'r tŷ, £94 dan gadwad
- Cofrestrydd i fynychu er mwyn cynnal priodas ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad- £81 caeth i'r tŷ, £88 dan gadwad
- Person awdurdodedig i fynychu tu allan i'w swyddfa ar gyfer tystio'r datganiad angenrheidiol o ran partneriaeth sifil person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad- £47 caeth i'r tŷ, £68 dan gadwad
- Cofrestrydd Partneriaeth Sifil i fynychu ar gyfer llofnodi atodlen partneriaeth sifil ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad- £81 caeth i'r tŷ, £88 dan gadwad
Ardystio ar gyfer addoli a chofrestru ar gyfer priodas (sy'n daladwy gan ymddiriedolwr yr adeilad)
- Ardystio man cyfarfod ar gyfer addoli crefyddol - £29
- Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a dynes - £123
- Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw (adeilad a gofrestrwyd yn flaenorol ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw) - £64
- Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw (adeilad nad oedd wedi'i gofrestru o'r blaen ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw) - £123
- Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw (adeilad a gofrestrwyd yn flaenorol ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw) - £ 64
- Cais ar y cyd i gofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw a chyplau o'r un rhyw - £123