Ffioedd trosi partneriaeth sifil i briodas
Mae'r ffioedd ar gyfer cyplau sy'n dymuno trosi eu partneriaeth sifil i fod yn briodas o dan y gwahanol weithdrefnau wedi'u nodi isod.
Y weithdrefn safonol (darparu gwybodaeth a llofnodi mewn un apwyntiad)
- Ble: Y swyddfa gofrestru neu fan gwasanaeth cofrestru lleol
- Ffi: £45 y cwpl - ffi statudol a bennwyd yn genedlaethol
Gweithdrefn dau gam
Cam 1 - darparu gwybodaeth i'r Cofrestrydd Arolygol a gwirio'r dystiolaeth
- Ble: Y swyddfa gofrestru neu fan gwasanaeth cofrestru lleol
- Ffi: £27 y cwpl - ffi statudol a bennwyd yn genedlaethol
HEFYD
Cam 2 - llofnodi'r datganiad
- Ble: Presenoldeb y Cofrestrydd Arolygol yng Ty Penallta
- Ffi: Gweler y ffioedd a nodir ar gyfer priodasau yng Ty Penallta a nodwch*
NEU
- Lle: Presenoldeb y Cofrestrydd Arolygol ar safleoedd cymeradwyedig
- Ffi: Gweler y ffioedd a nodir ar gyfer priodasau ar safleoedd cymeradwyedig a nodwch *
NEU
- Ble: Presenoldeb y Cofrestrydd Arolygol mewn adeilad crefyddol sydd wedi cofrestru ar gyfer priodasau cyplau o'r un rhyw
- Ffi: ffi statudol a osodir yn genedlaethol o £91
NEU
- Ble: Presenoldeb y Cofrestrydd Arolygol mewn trosiad i briodas yn unol â'r ffydd Iddewig neu'r Gymdeithas y Cyfeillion
- Ffi: ffi statudol a osodir yn genedlaethol o £91
NEU
Gweithdrefn gaeth i'r tŷ
- Ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r ty
- Ffi statudol a osodir yn genedlaethol o £99
NEU
Gweithdrefn yn y ddalfa
- Yn y ddalfa
- Ffi statudol a osodir yn genedlaethol o £117
NEU
Gweithdrefn pan fo un person yn ddifrifol wael ac ni ddisgwylir iddynt wella
- Unrhyw fan lle mae'r person yn preswylio
- Ffi statudol a osodir yn genedlaethol o £15