Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Genedigaethau, priodasau, marwolaethau    Gwasanaethau profedigaeth    Dweud Wrthym Unwaith

Dweud Wrthym Unwaith

Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch eisiau gwneud dim ohonynt, mae'n debyg. Un o'r pethau hyn yw cysylltu â'r adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod am y farwolaeth.

Mae 'Dwedwch Unwaith Wrthym' yn wasanaeth lle gallwn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eu bod nhw yn pasio'r wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau llywodraeth a gwasanaethau llywodraeth leol.

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth

Cyn y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dwedwch Unwaith Wrthym, rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth.

Unwaith y byddwch wedi gwneud hynny, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dwedwch Unwaith Wrthym mewn un o dair ffordd:

  • Wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru - Mae angen i chi gofrestru'r farwolaeth cyn y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig i chi yn ystod yr un apwyntiad. Er mwyn gwneud apwyntiad, cysylltwch â ni.
  • Dros y ffôn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau - Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith ar unrhyw adeg wedi i chi gofrestru'r farwolaeth trwy ffonio'r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 085 7308. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am-8pm. Mae galwadau i'r rhif hwn am ddim o linell BT, ond efallai y bydd darparwyr eraill, gan gynnwys ffonau symudol, yn codi tâl. Os nad ydych yn siarad Saesneg bydd cynghorydd a chyfieithydd yn ffonio nôl i'ch helpu. Os ydych yn galw o Gymru bydd dewis gennych i barhau â'r alwad yn Gymraeg.
  • Online via www.gov.uk/tell-us-once - Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein. Wedi i chi gofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn rhoi rhif cyfeirnod Dweud Wrthym Unwaith unigryw i chi. Bydd angen y rhif hwn arnoch i logio i mewn. 

Pwy all gael ei hysbysu gyda'r gwasanaeth hwn?

Bydd Dwedwch Unwaith Wrthym yn helpu teuluoedd sy'n galaru i hysbysu'r sefydliadau ac adrannau llywodraeth canlynol pan fydd rhywun yn marw:

  • Gwasanaethau Cyngor
  • Treth gyngor
  • Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion
  • Bathodynnau glas (bathodynnau car i bobl anabl)
  • Gwasanaethau cymdeithasol i blant
  • Cofrestr etholiadol
  • Budd-dal tai a gostyngiadau'r dreth gyngor
  • Casglu taliadau ar gyfer gwasanaethau'r cyngor
  • Tai cyngor
  • Llyfrgelloedd a hamdden

Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalydd
  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn Gwladol
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Tîm Gofal Iechyd Tramor

Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC)

  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Trethu personol

Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi

  • Pasbort

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

  • Trwydded Yrru

Os y byddwch yn defnyddio'r gwasanaeth wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru, efallai gall y cofrestrydd eich helpu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth a sefydliadau allai fod o gymorth i chi, ac os oes angen, cysylltu ag adrannau cyngor eraill sydd heb eu rhestru uchod, er enghraifft cerdyn teithio rhatach.

Gwybodaeth y byddwch ei hangen

Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhoi i unrhyw sefydliadau y byddwn yn cysylltu â nhw drosoch chi, ac er mwyn i chi gael y mwyaf allan o'r gwasanaeth, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu bod â'r wybodaeth ganlynol ynghylch yr ymadawedig wrth law:

  • Rhif Yswiriant Cenedlaethol
  • Dyddiad geni
  • Tref/gwlad enedigol
  • Manylion unrhyw wasanaethau/budd-daliadau yr oeddent yn
  • Tystysgrif marwolaeth
  • Trwydded yrru neu rif trwydded yrru
  • Pasport neu rif pasport
  • Bathodyn glas

Gallech gael eich holi am fanylion:

  • Perthynas agosaf
  • Gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n dal yn fyw
  • Y person sy'n delio gyda'r ystâd

Noder: Rhaid cael caniatâd y personau a restrwyd uchod os ydych yn mynd i roi gwybodaeth amdanynt i ni.

Gwybodaeth Bellach

Os hoffech chi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y gwasanaeth cysyllwch â'r swyddfa gofrestru.

Canllaw profedigaeth

Gwyddom pa mor anodd yw hi pan fyddem yn colli rhywun sy'n agos atom drwy farwolaeth. Gall teimladau o sioc, tristwch, colled a dryswch gymryd ein bywydau drosodd. Mae hefyd yn amser pan fo cymaint o bethau i'w wneud,  pan fyddwn ni'n teimlo nad ydym yn gallu ymdopi.

Mae gwasanaeth Cofrestru a Phrofedigaeth y Cyngor wedi cynhyrchu'r canllaw profedigaeth hwn i'ch helpu chi drwy'r amser anodd hwn. Mae'n darparu arweiniad, cefnogaeth a sicrwydd a bydd yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i'ch helpu trwy'ch profedigaeth.

Darllenwch ein canllaw profedigaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Datganiad Preifatrwydd Dweud Wrthym Unwaith

Mae’r gwasanaeth hwn yn ymrwymedig i sicrhau fod eich preifatrwydd wedi ei ddiogelu a gallwch fod yn sicr y bydd unrhyw wybodaeth fyddwch yn rhoi yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r Datganiad Preifatrwydd hwn. Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth fyddwch yn rhoi i ni pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Datganiad Preifatrwydd Dweud Wrthym Unwaith (PDF)
Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl