Cofrestru marwolaeth

Cofrestru marwolaeth

Pwy all gofrestru marwolaeth?

Mae'r bobl sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gofrestru marwolaeth yn cynnwys:

  • Perthynas i'r ymadawedig
  • Person oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • Y person sy'n berchen ar lle bu farw'r person os oedd ef/hi yn gwybod am y farwolaeth
  • Y person sy'n gyfrifol am drefnu'r angladd (nid yw hyn yn cynnwys y trefnydd angladdau).

Yn gyffredinol, dylid cofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod, ond gall hyn gael ei ymestyn o dan rai amodau, er enghraifft, os yw’r crwner yn ymwneud â’r achos.

Os cafodd marwolaeth ei hatgyfeirio at y crwner, ni ellir ei chofrestru nes  y bydd y cofrestrydd wedi cael caniatâd gan y crwner i wneud hynny.

Gallwch chi gofrestru yn swyddfa gofrestru’r ardal lle digwyddodd y farwolaeth, neu gallwch chi fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru neu Loegr a gwneud datganiad o'r manylion angenrheidiol.

Fodd bynnag, os y byddwch chi'n gwneud datganiad, gall fod peth oedi wrth gael tystysgrifau a gwaith papur.

Gwneud apwyntiad

Bydd angen i chi wneud apwyntiad er mwyn cofrestru marwolaeth. Edrychwch ar ein cyfleusterau ni a'u horiau agor nhw.

Nid oes modd i'r cofrestrydd gofrestru’r farwolaeth nes bod dogfennau rhagnodedig perthnasol wedi’u rhoi i feddyg a oedd yn gofalu am yr ymadawedig yn ystod ei salwch a/neu archwilydd meddygol/crwner.

Fel arfer, caiff y dogfennau hyn eu sganio a'u hanfon yn electronig at y cofrestrydd.

Beth fydd y cofrestrydd yn ei ofyn i fi?

Bydd cofrestrydd yn siarad â chi yn breifat ac yn gofyn am:

  • ddyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • enw llawn yr ymadawedig (a chyfenw cyn priodi os yn briodol)
  • dyddiad a man geni
  • swydd yr ymadawedig, ac enw llawn a swydd y gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • cyfeiriad cartref arferol yr ymadawedig
  • manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus
  • dyddiad geni gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n fyw yr ymadawedig
  • rhif cerdyn meddygol GIG yr ymadawedig, os yw ar gael

Rhagor o wybodaeth

Bydd gofyn i chi hefyd ateb y cwestiynau canlynol. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio at ddibenion ystadegau’r llywodraeth ac mae’n gyfrinachol.

  • Os oedd yr ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, beth yw dyddiad geni’r priod neu’r partner sifil sy’n fyw?
  • Pa mor hir arhosodd yr ymadawedig yn yr ysbyty neu mewn sefydliad arall, er enghraifft, hosbis, cartref nyrsio neu gartref gofal?
  • Os oedd yr ymadawedig dan 75 oed, ym mha ddiwydiant y bu’n gweithio?
  • A oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn galwedigaethol o gronfeydd y llywodraeth? Bydd hyn yn cynnwys galwedigaethau megis gweision sifil, staff y GIG, personél y lluoedd arfog a gweddwon milwyr.
  • Beth oedd rhif GIG yr ymadawedig sydd i'w ganfod ar ei gerdyn/cherdyn meddygol, os yw ar gael?

Pan fydd y cofrestru wedi'i gwblhau, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi gadarnhau bod yr wybodaeth yn gywir cyn llofnodi'r gofrestr.

Mae'n RHAID i chi wirio’r wybodaeth a chadarnhau ei bod yn gywir cyn i’r cofrestrydd lofnodi'r gofrestr.

Wedi i'r gofrestr gael ei llofnodi, efallai na fydd modd i'r cofrestrydd gywiro unrhyw gamgymeriadau yn syth ac efallai y bydd angen gwneud cais i'r Cofrestrydd Cyffredinol am ganiatâd i wneud y cywiriad.

Efallai y bydd rhaid talu ffi i wneud cywiriadau.

Dogfennau y bydd eu hangen arnoch chi ar gyfer cofrestru

Er mwyn ein helpu ni i wneud yn siŵr ein bod ni'n cofnodi marwolaethau yn gywir, byddai'n ddefnyddiol pe bai gennych chi’r dogfennau canlynol gyda chi ar gyfer yr apwyntiad:

Er mwyn cadarnhau manylion yr ymadawedig:

  • Pasbort
  • Trwydded yrru
  • Prawf o gyfeiriad (bil cyfleustodau)
  • Cerdyn meddygol y GIG
  • Unrhyw ddogfennau neu weithredoedd newid enw
  • Holl dystysgrifau genedigaeth a phriodas neu bartneriaeth sifil yr ymadawedig

Er mwyn cadarnhau manylion y person sy'n cofnodi'r farwolaeth:

  • Pasbort
  • Trwydded yrru
  • Prawf o gyfeiriad (bil cyfleustodau)

Os na allwch chi ddarparu'r dogfennau hyn, ni fydd hynny yn eich rhwystro chi rhag cofrestru'r farwolaeth. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol os gallech chi ddarparu nhw lle bynnag y bo modd fel bod modd i ni sicrhau bod ein cofnodion ni'n gywir.

Cyhoeddi'r "ffurflen werdd" ar gyfer claddu neu amlosgi

Bydd y cofrestrydd yn cyhoeddi “ffurflen werdd” a fydd yn caniatáu i'r angladd ddigwydd.

Dydyn ni ddim yn codi tâl am y ffurflen hon.

Os yw'r crwner yn delio â'r farwolaeth, efallai y bydd gweithdrefn wahanol yn cael ei dilyn.

Tystysgrifau marwolaeth

Wrth gofrestru, gallwch chi brynu copi ardystiedig o'r cofnod ar y gofrestr (tystysgrif marwolaeth) am £11 yr un.

Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu ffotogopïo at ddibenion swyddogol.

Mae'r canlynol yn rhoi syniad i chi o'ch anghenion posibl chi:

  • Banciau
  • Cymdeithasau adeiladu
  • Cwmnïau pensiwn
  • Bondiau premiwm a chynilion cenedlaethol
  • Yswiriant bywyd
  • Contractau a chytundebau
  • Profeb ac ewyllysion
  • Cyfrifwyr
  • Cyfrannau
  • Trefniadau teithio

Claddu yn ôl arferion crefyddol penodol

Rydyn ni'n cydnabod bod rhaid i'r angladd ddigwydd o fewn 24 awr o'r farwolaeth yn ôl rhai crefyddau.

Er mwyn sicrhau y gall anwyliaid gael eu claddu yn unol ag amserlenni crefyddol, os yw'r farwolaeth wedi digwydd yn ardal Caerffili, bydd Cofrestrydd ar gael ddydd a nos i gofrestru marwolaeth a darparu'r gwaith papur priodol er mwyn i angladd allu digwydd. Y rhif i'w ffonio ar gyfer cofrestru marwolaeth ar frys dan yr amgylchiadau hyn yw 07771 886895.

 

Mae'n rhaid i'r cofrestrydd gael hysbysiad gan feddyg neu grwner bod achos marwolaeth yn hysbys cyn gallu parhau.

Mae'r ddogfen ganlynol wedi cael ei pharatoi gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac wedi ei chymeradwyo gan y Fforwm Cymunedau Ffydd.

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – Trefnu angladd Mwslimaidd?

Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch chi eisiau eu gwneud nhw o gwbl, mae'n debyg. Un o'r pethau hyn yw cysylltu â'r adrannau llywodraeth a'r gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod am y farwolaeth.

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth lle gallwn ni eich helpu chi i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eu bod nhw wedyn yn pasio'r wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau llywodraeth eraill a gwasanaethau llywodraeth leol.

Mae teuluoedd sy'n galaru yn cael cynnig y gwasanaeth hwn yn y swyddfa gofrestru yn dilyn cofrestru'r farwolaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Dywedwch Wrthym Unwaith.

Cysylltwch â ni