FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Angladdau iechyd cyhoeddus

Weithiau pan fydd rhywun yn marw, nid oes perthnasau neu ffrindiau ar gael i drefnu'r angladd. Mewn achosion o'r fath rydym yn gyfrifol am drefnu angladd unrhyw berson sydd wedi marw o fewn ein ffiniau, heblaw am mewn ysbytai, lle mae'n ymddangos nad oes unrhyw asiantaeth neu bersonau eraill yn gwneud trefniadau priodol ar gyfer gwaredu'r corff. Caiff y rhain eu galw yn angladdau iechyd cyhoeddus.

Gofynion cyfreithiol

Mae gennym ddyletswydd o dan Adran 46 Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 i “gladdu neu amlosgi corff unrhyw berson sydd wedi marw neu wedi ei ganfod yn farw” o fewn ffiniau bwrdeistref sirol Caerffili, lle mae'n ymddangos “nad oes unrhyw drefniadau priodol wedi cael, neu yn cael, eu gwneud i waredu'r corff”. Mae'r bobl sydd angen y math hwn o angladd fel arfer yn bobl sydd heb wneud ewyllys neu sydd heb berthynas agos.

Ni fyddwn yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu angladdau ac ystadau heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.

Bydd y cyngor yn gyntaf yn ceisio dod o hyd i berthnasau neu ffrindiau i'r ymadawedig sy'n dal yn fyw, ac mewn rhai achosion yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb iddynt. Os na fydd unrhyw un yn fodlon neu'n gallu cymryd y cyfrifoldeb, yna bydd y cyngor yn delio â phob agwedd o drefnu'r angladd. Mae hawl gan y cyngor i adfer holl gostau'r angladd o ystâd yr ymadawedig, ar ffurf dyled sifil adferadwy o fewn tair blynedd.

Mewn achosion lle mae asedau sy'n fwy na chostau'r angladd, a lle nad oes unrhyw filiau eraill i'w talu, bydd unrhyw arian sydd ar ôl yn mynd i'r Grŵp Ystadau o fewn Adran Bona Vacantia (nwyddau diberchennog) Cyfreithiwr y Trysorlys, yn unol â'r rheolau a osodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Am fwy o wybodaeth ac i weld cofrestr ystadau Cyfreithiwr y Trysorlys ewch i wefan Bona Vacantia.

Pryd fydd angladd iechyd cyhoeddus yn digwydd?

Mae'r cyngor fel arfer yn gweithredu yn ôl cyfarwyddiadau o swyddfa'r Crwner lleol. Mewn rhai amgylchiadau bydd rheolwyr cartrefi preswyl a lletyai gwarchod yn ein cynghori ar amgylchiadau lle mae marwolaeth wedi digwydd o fewn eu llety nhw a lle nad oes, hyd y gwyddon, unrhyw berthnasau sy'n fyw.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fydd y Crwner wedi'n hysbysu o farwolaeth y peth cyntaf i'w wneud yw casglu eiddo personol yr ymadawedig gan yr heddlu.

Os byddwn yn gwybod lle'r oedd yr ymadawedig yn byw, neu os ydym wedi cael ein hysbysu gan reolwr cartref preswyl neu lety gwarchod, byddwn yn chwilio'r eiddo i geisio dod o hyd i ewyllys neu unrhyw ddogfennau eraill fydd yn cyfeirio at unrhyw berthnasau, credoau crefyddol neu ddymuniadau yn ymwneud ag angladd, ac i ddod o hyd i arian i dalu am yr angladd.

Eithriadau

Ni fyddwn yn cymryd rhan os oes unrhyw drefniadau angladdol wedi cael eu gwneud yn barod neu os yw'r angladd wedi digwydd yn barod. Ni fyddwn yn ariannu'n rhannol neu gyfrannu at gost unrhyw angladd sydd wedi cael ei drefnu gan rywun arall yn barod.

Ni fyddem yn gwneud trefniadau angladdol ar gyfer pobl fu farw mewn ysbyty neu mewn ambiwlans ar y ffordd i'r ysbyty. Dan amgylchiadau o'r fath byddai awdurdodau'r ysbyty yn cymryd cyfrifoldeb. Byddai awdurdodau'r ysbyty yn gofyn am ad-daliad pe bai unrhyw arian ar gael ar gyfer hyn yn y dyfodol.

Ni fyddem fel arfer yn ymgymryd â threfniadau angladd os byddai'r berthynas agosaf yn derbyn budd-daliadau, gan y byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau yn talu'r rhan fwyaf, os nad y cwbl, o gostau'r angladd; er y byddai hyn wrth gwrs yn ddibynnol ar gais y trefnydd angladdau. Mae'n synhwyrol i hysbysu trefnydd angladdau ar unwaith o unrhyw gyfyngiadau ariannol fel eu bod yn gallu sicrhau bod y trefniadau yn cael eu gwneud o fewn cyllideb y cleient.

Claddu neu amlosgi?

Gan nad oes amlosgfa ym mwrdeistref sirol Caerffili, claddedigaethau yw'r rhan fwyaf o angladdau iechyd cyhoeddus y sir.

Os yw'r ymadawedig wedi gadael unrhyw waith papur, neu wedi cynghori rhywun y mae'r cyngor wedi cysylltu â nhw, yn nodi'n benodol eu bod yn dymuno cael eu hamlosgi, bydd y cyngor yn trefnu gwasanaeth amlosgi gyda'r trefnwr angladdau enwebedig.

Mewn unrhyw achos, byddai seremoni briodol yn cael ei threfnu (cyn belled â phosibl) yn unol â chredoau a dymuniadau'r ymadawedig.

Byddai gweddillion yr ymadawedig wedi'r amlosgi yn cael eu gwasgaru yn yr ardd goffa oni bai ein bod yn dod o hyd i gyfarwyddiadau penodol ymysg eiddo'r ymadawedig, neu mewn ewyllys. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw gostau yn ymwneud â chyfarwyddiadau penodol gael eu talu drwy ystâd yr ymadawedig, neu gan aelodau o'r teulu. Os yw aelod o'r teulu yn dymuno cadw'r gweddillion yna rhaid i'r person hwnnw eu casglu o'r amlosgfa neu gan y trefnwr angladdau.

Cymorth i dalu am angladd

Os mai chi yw'r person sy'n gyfrifol am drefnu angladd a chithau ar incwm isel, gallwch hawlio taliad angladd gan Gronfa Gymdeithasol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Am wybodaeth bellach ynghylch Taliadau Angladd, Taliadau Profedigaeth a Lwfans Profedigaeth, ewch i'r adran cymorth gyda chostau angladd.

Os ydych chi angen siarad â ni ynghylch trefniadau angladd, cysylltwch â'r Gwasanaethau Profedigaeth.

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym yn derbyn nifer gynyddol o geisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ynghylch sawl claddedigaeth cymorth gwladol sydd wedi eu trosglwyddo i Gyfreithiwr y Trysorlys.

Mae'r ddogfen isod yn rhoi manylion yr achosion hyn a chaiff ei diweddaru o fewn 10 diwrnod i angladd neu os ydym yn hwyrach yn cyfeirio mater at Gyfreithiwr y Trysorlys.

Claddedigaethau iechyd gwladol – cofnod datgeliadau

Cysylltwch â ni