Trefnwyr angladdau

Mae nifer o drefnwyr angladdau yn yr ardal, ac er nad ydyn ni'n gallu argymell unrhyw un penodol neu gynnig hawliau a safonau sy'n ymwneud â defnyddio trefnwyr angladdau, dylai ein harweiniad i ddefnyddio trefnwyr angladdau eich helpu chi wrth i chi ddewis.

Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu chi i ddeall sut mae trefnu angladdau yn gweithio ac yn eich galluogi chi i ofyn cwestiynau sy’n addas i’ch anghenion pan fyddwch chi'n ystyried trefnu angladd.

Mae'r canllaw yn cyfeirio at Siarter y Galarwyr. Cafodd y siarter ei ddatblygu ym 1996 gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) mewn ymateb i feirniadaeth am arferion angladd modern ac er mwyn gwneud gwelliannau. Mae'r Siarter yn nodi 33 o hawliau ac rydyn ni'n cyfeirio at rai ohonyn nhw yn ein canllaw uchod.

Arweiniad i ddefnyddio trefnwyr angladdau (PDF 24kb)

Gallwch gael cyngor ar gostau trefnwyr angladdau gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Gellir cymharu costau trefnwyr angladdau yn Your Funeral Choice.