Yr hyn a wnawn

Mae'r Gwasanaeth Cofrestru yn gyfrifol am gofrestru genedigaethau, marwolaethau a marw-enedigaethau, am gymryd hysbysiadau cyfreithiol o briodasau a phartneriaethau sifil ac am gynnal seremonïau, gan gynnwys seremonïau priodas, partneriaeth sifil, enwi, ailddatgan addunedau a dinasyddiaeth.

Mae'r tudalennau hyn wedi'u cynllunio i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, archebu seremoni neu gael copi o dystysgrif. 

Mae gan y Swyddfa Gofrestru bron pob un gofrestr o enedigaethau, marwolaethau a phriodasau sydd wedi digwydd yn y fwrdeistref sirol sy'n dyddio o 1837 hyd at heddiw. Yn ychwanegol, cedwir holl bartneriaethau sifil ardal gofrestru Caerffili o 2005 ymlaen. Mae'n bosib gofyn am dystysgrif gopi o unrhyw gofrestr archifedig.

Rydym yn ymfalchïo yn ein Gofal Cwsmer. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglŷn â gwasanaeth a gawsoch gennym ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych drwy’r arolwg byr isod.

Llenwch yr Arolwg
Cysylltwch â ni