Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Buddion a grantiau    Cynllun Cymorth Costau Byw

Cynllun Cymorth Costau Byw

Mae manylion cynllun Llywodraeth Cymru ar gael yma.

Isod mae rhai o bwyntiau allweddol y cynllun.

Mae’r Cynllun yn cynnwys 2 elfen; prif gynllun (yn ymwneud â rhai talwyr treth y cyngor) a chynllun dewisol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn penderfynu ar ei gynllun dewisol ei hun o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru (LlC); bydd manylion cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Mai.

Mae’r prif gynllun yn darparu ar gyfer taliad ‘Costau Byw’ o £150 o dan ddau amod:

A: Amod Hawlio Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor

Os oedd y deilia(i)d tŷ yn cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, asesir bod ganddo/ganddynt hawl i gael taliad o £150 yn awtomatig waeth beth fo'r band prisio y mae ei eiddo/eu heiddo ynddo (A i I).

B: Amod Bandiau'r Dreth Gyngor

Asesir bod gan aelwydydd sy'n meddiannu eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor hawl i gael taliad o £150 ar yr amod eu bod yn bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:

  • yn atebol i dalu'r dreth gyngor ar eiddo ar 15 Chwefror 2022
  • ddim wedi cael eithriad ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022
  • yn byw yn yr eiddo hwnnw fel eu prif breswylfa ar 15 Chwefror 2022
  • yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau cysylltiedig a biliau eraill yr eir iddynt yn rheolaidd ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022.

Mae aelwydydd sy'n byw mewn eiddo a brisiwyd fel Band E ond sy'n derbyn gostyngiad yn y band i Fand D oherwydd anabledd yn gymwys o dan y prif gynllun.

Nid yw'r £150 yn ad-daliad ar fil treth y cyngor, mae'n daliad i helpu gyda chostau cynyddol yr holl filiau cyfleustodau.

Bydd UN taliad i bob cartref cymwys.

Bydd y prif gynllun yn cychwyn cyn gynted â phosibl ym mis Ebrill ond, gan y gallai tua 70,000 o aelwydydd o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili fod yn gymwys, bydd taliadau'n cymryd sawl mis i'w cwblhau. Bydd y cynllun yng Nghymru yn rhedeg am tua 6 mis tan 30/09/2022.

Os ydych chi'n talu eich treth y cyngor chi drwy ddebyd uniongyrchol, rydyn ni'n disgwyl y bydd modd gwneud y taliad yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc chi, heb fod angen i chi gofrestru eich manylion chi gyda ni. Byddwn yn cyhoeddi'r taliadau hyn yn ystod wythnos olaf mis Ebrill.

Os ydych wedi sefydlu cyfarwyddyd debyd uniongyrchol yn ddiweddar i dalu eich bil treth gyngor, byddwn yn casglu eich taliad debyd uniongyrchol treth gyngor cyntaf cyn i ni roi’r taliad ‘Cost-Byw’ o £150 i chi. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y manylion banc sydd gennym ar eich cyfer yn gywir ac i leihau twyll a chamgymeriadau.

Ar gyfer yr holl dalwyr treth y cyngor cymwys eraill, bydd prif gynllun Llywodraeth Cymru yn gofyn am broses gofrestru drwy wefan y Cyngor fel y gallwn ni gasglu manylion eich cyfrif banc chi. Bydd ffurflen ar-lein ar gael yn ystod mis Mai ar dudalen gwefan Cynllun Cymorth Costau Byw pan fyddwn yn barod i ddechrau prosesu cofrestriadau. Byddwn yn anfon llythyr at gartrefi y credwn y gallent fod yn gymwys i gael cymorth, yn eu gwahodd i gofrestru eu manylion gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. Bydd llythyrau'n cael eu dosbarthu dros nifer o wythnosau. Rydyn ni’n anelu at ddechrau anfon y llythyrau hyn tua chanol mis Mai.

Bydd angen gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer y bobl hynny nad oes ganddyn nhw fynediad at y rhyngrwyd a/neu lle nad oes ganddyn nhw gyfrif banc addas. Byddwn ni’n darparu gwybodaeth ar sut y bydd hyn yn gweithio cyn gynted ag y gallwn yn ystod mis Mai.

Bydd y mwyafrif o drethdalwyr sy'n cael eu heithrio rhag talu'r dreth (er enghraifft, cartref sy'n cynnwys myfyrwyr cymwys yn gyfan gwbl, y rhai sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, neu bobl â nam meddyliol difrifol) yn dod o dan y cyfnod ddewisol o'r cynllun.

Bydd rhagor o wybodaeth am y cyfnod dewisol yn ymddangos yma pan fyddant ar gael.

Rydyn ni'n annog trigolion i fod yn ystyriol o e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn o ffynonellau amheus sy'n cynnig gwybodaeth am y cynllun, oherwydd gallai hyn fod gan rywun sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, megis manylion eich cyfrif banc chi.

Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl