Cronfa Deddf Eglwys Cymru - Meini Prawf Ymgeisio

Pwrpas y Grant

Mae Cronfa Deddf Eglwys Cymru ar gael i eglwysi, capeli, mannau addoli cyhoeddus, sefydliadau cymunedol ac elusennau sy'n gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.  Mae'n darparu cymorth i'r sefydliadau hyn ar ffurf grantiau cyfalaf ar gyfer atgyweirio neu adnewyddu adeiladau a phrynu offer i gefnogi nodau'r sefydliad a diwallu anghenion canfyddedig y gymuned leol.  Y bwriad yw y bydd y prosiectau sy'n derbyn cymorth yn cael effaith barhaol ar y cymunedau y mae'r sefydliadau a'r adeiladau hyn wedi'u lleoli.  Yn ogystal, efallai y bydd cymorth cyfyngedig yn cael ei ddarparu i unigolion ‘eithriadol’ mewn perthynas â hyrwyddo addysg.

Sefydliadau cymunedol a phrosiectau wedi'u seilio yn y gymune

Mae'n rhaid i brosiectau cymunedol gael eu rheoli gan sefydliadau dielw sydd wedi'u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn un o'r canlynol:

  • Eglwysi a chapeli, neu fannau addoli cyhoeddus eraill, â chyfansoddiad mabwysiedig
  • Sefydliad neu glwb gwirfoddol/cymunedol anghorfforedig â rheolau neu gyfansoddiad mabwysiedig
  • Elusen neu Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau
  • Sefydliad cymunedol sy'n Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (CLG) heb unrhyw gyfalaf cyfrannau ac sydd wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) nad yw wedi'i sefydlu er budd preifat nac yn cael ei gynnal er budd preifat: defnyddir unrhyw warged neu asedau er budd y gymuned yn unig

Nodwch: Rhaid bod gan bob sefydliad ei gyfrif banc ei hun yn enw'r sefydliad

Ni fydd y mathau canlynol o sefydliadau yn cael eu hariannu:

  • Unrhyw sefydliad masnachol/masnachu neu sefydliad sy'n gwneud elw lle rhennir yr elw ymhlith y Cyfarwyddwyr neu'r aelodau
  • Unrhyw fasnachwyr unigol
  • Nid yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr

Ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys gwaith adnewyddu, datblygu, ymestyn neu adeiladu yn achos tir ac/neu adeiladau, dylai ymgeiswyr fod yn berchen ar y tir ac/neu'r adeiladau neu fod cytundeb ffurfiol ar waith gyda'r landlord y gellir gwneud y gwaith.  Yn ogystal, mewn achosion lle mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r landlord a bydd contractwr preifat yn gwneud y gwaith, bydd angen prydles neu drwydded gydag o leiaf chwe blynedd yn weddill wrth gyflwyno'r cais.

Beth all gael ei ariannu?

  • Adfer neu gynnal a chadw unrhyw fan addoli cyhoeddus a neuaddau cymuned neu bentref
  • Sefydliadau sy'n gweithio i fynd i'r afael ag anfantais i bobl ar incwm isel neu'r rhai sy'n sâl neu'n anabl
  • Darpariaeth gwasanaethau neu gyfleusterau gan sefydliadau sy’n hybu lles pobl hŷn
  • Darpariaeth cyfleusterau ar gyfer hamdden neu alwedigaeth amser hamdden arall sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, gyda golwg ar wella bywydau unigolion.  Gall hyn gynnwys darparu meysydd chwarae, cyfleusterau chwaraeon, parciau, mannau agored a chanolfannau/neuaddau ar gyfer cyfarfodydd, darlithoedd, dosbarthiadau neu hyfforddiant.
  • Hyrwyddo addysg a budd cyhoeddus trigolion drwy hybu eu diddordeb mewn materion esthetig, pensaernïol, hanesyddol neu wyddonol yn ymwneud â Chymru.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o'r angen am eu prosiect neu weithgaredd a'r buddion parhaol y bydd yn eu darparu i'r gymuned leol.

Beth na all gael ei ariannu?

Ni ellir ariannu’r canlynol:

  • Costau rhedeg arferol unrhyw sefydliad e.e. rhent, cyfleustodau, yswiriant ac ati.
  • Unrhyw gostau refeniw eraill gan gynnwys cyflogi staff, hyfforddiant ac ati.
  • Eitemau at ddefnydd untro neu flynyddol a/neu eitemau tymhorol
  • Grantiau dilynol ar gyfer yr un prosiect, oni bai bod gan y gwaith gamau gwahanol ar wahân (mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw gais newydd fod am waith sy’n sylweddol wahanol i’r cais gwreiddiol)
  • Costau ôl-weithredol ar gyfer unrhyw brosiect, sef costau am waith sydd wedi'i wneud eisoes, neu offer a/neu ddeunyddiau sydd wedi'u prynu neu wedi'u harchebu cyn cael cynnig grant ffurfiol a llofnodi Telerau ac Amodau'r grant, a'u cyflwyno.  Os ydych chi'n defnyddio proses dendro, nid oes modd dyfarnu tendrau cyn i grant gael ei gymeradwyo
  • Mae'r rhestr hon yn un ddangosol yn unig ac nid yw'n gynhwysfawr.

Pryd mae modd cyflwyno cais?

Mae'r cynllun grant yn agor ar 1 Ebrill bob blwyddyn, ac mae modd cyflwyno ceisiadau unrhyw bryd.  Dim ond hyn a hyn o gyllid sydd ar gael ac nid oes sicrwydd y bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei gefnogi.  Rhoddir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad eu cais tua 4-6 wythnos ar ôl ei gyflwyno.

Ni all ymgeiswyr wneud cais am grantiau pellach mewn blynyddoedd olynol h.y. os gwneir cais llwyddiannus yn 2022, ni all yr ymgeisydd wneud cais pellach tan 2024 ar y cynharaf. 

Faint o gyllid mae modd gwneud cais amdano?

Y grant mwyaf sydd ar gael i unrhyw sefydliad yw £7,500.Gellir dyfarnu grant o hyd at 100% o gostau'r prosiect i brosiectau cymeradwy lle mae cyfanswm y gost yn llai na £7,500.Gall prosiectau mwy (sy'n costio dros £7,500) dderbyn grant o hyd at yr uchafswm.

Amcanbrisiau/Dyfynbrisiau

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno amcanbrisiau/dyfynbrisiau cymaradwy i gefnogi eu cais. Gellir cynnwys sgrinlun o wefannau sy’n dangos cyferiad y wefan, manylion yr eitem a’r pris. Gall Amazon cael ei ddefnyddio fel cyflenydd. Peidiwch a ddefnyddio eBay ar gyfer dyfynbrisiau.

Ar gyfer prosiectau lle mae cyfanswm cost y prosiect yn £5,000 neu fwy, mae angen tri amcangyfrif/dyfynbris ysgrifenedig.Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod yr holl gostau yn cynnwys TAW lle y bo hynny'n briodol. Gellir ystyried dyfynbris unigol ar gyfer eitemau arbenigol neu sefyllfaoedd lle nad yw hi’n bosib cael ail ddyfynbris. Mae’n rhaid i hyn cael ei drafod o flaen llaw cyn cyflwyno cais a chaiff ei ystyried fesul achos.

Rhaid i amcanbrisiau/ddyfynbrisiau fod yn eitemedig, yn fanwl, ac yn gymaradwy (o ran mesuriadau, cyfraddau, meintiau, manylion ac ati).Rhaid iddynt hefyd fanylu ar TAW, lle bo hynny'n berthnasol, a chynnwys y rhif TAW ar gyfer sefydliadau sydd wedi'u cofrestru at ddibenion TAW.

Gwneir unrhyw gynnig grant ar sail y dyfynbris rhataf a ddarperir.Gall ymgeiswyr ddewis cyflenwr neu gontractwr drytach i gwblhau'r gwaith neu ddarparu nwyddau/gwasanaethau, ond bydd hyn ar gost yr ymgeiswyr.

Taliadau

Caiff 50% o’r grant ei dalu yn dilyn ei gymeradwyaeth a dychweliad o’r llythyr telerau ac amodau wedi’i harwyddo. Rhyddheir gweddill y grant yn dilyn derbyniad y cofnodion angenrheidiol sydd yn profi bod y grant sydd wedi cael ei rhyddhau wedi cael ei wario (e.e anfoneb/derbynneb ac adroddiad banc llawn – ni chaiff rhestr o bryniannau ei dderbyn). Ni chaiff gweddill y grant ei dalu cyn i’r dystiolaeth hon cael ei darparu. Os nad yw’r dystiolaeth hon yn cael ei darparu, gellir ail-adfer y grant sydd wedi ei dalu.  Gwneir yr holl daliadau drwy drosglwyddiad System Glirio Awtomataidd y Banciau (BACS) i gyfrif banc y sefydliad sy'n ymgeisio.

O dan amgylchiadau arbennig gellir ystyried taliad llawn o’r grant o flaen llaw ond caiff y cais ei hystyried yn ôl yr achos. Os gytunir, bydd angen anfonebau ac adroddiadau banc er mwyn profi bod y grant wedi cael ei wario.  Os nad yw’r dystiolaeth hon yn cael ei darparu, gellir ail-adfer y grant sydd wedi ei dalu.

Amserlen prosiectau

Rhaid cwblhau pob prosiect a gymeradwyir cyn pen 18 mis o ddyddiad y llythyr cynnig ffurfiol.  Bydd y cyllid ar gyfer unrhyw brosiectau na fyddant wedi'u cwblhau o fewn yr amserlen hon yn cael ei dynnu'n ôl yn awtomatig a gellir ail-adfer unrhyw grant sydd wedi ei dalu yn barod.

Ceisiadau gan unigolion

Beth all gael ei ariannu?

Gellir derbyn ceisiadau gan ‘unigolion eithriadol’ mewn perthynas â hyrwyddo addysg.  Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’r hyn sy’n eu gwneud yn ‘eithriadol’ ac at ba ddiben y byddai unrhyw grant yn cael ei ddefnyddio.  Gellir gwneud ceisiadau am uchafswm o £1,500 am hyd at dair blynedd.  Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno cais newydd bob blwyddyn, er mwyn dangos eu presenoldeb parhaus a'r costau y maent yn gwneud cais amdanynt. 

Pryd mae modd cyflwyno cais?

Mae'r cynllun grant yn agor ar 1 Ebrill bob blwyddyn, ac mae modd cyflwyno ceisiadau unrhyw bryd.  Dim ond hyn a hyn o gyllid sydd ar gael ac nid oes sicrwydd y bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei gefnogi.  Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais tua phedair wythnos ar ôl cyfarfod perthnasol yr Is-bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol, a gynhelir ym mis Mawrth, Gorffennaf a Thachwedd bob blwyddyn. 

Sut caiff ceisiadau eu hasesu?

Bydd Is-bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yn ystyried pob cais gan unigolion ac yn gwneud argymhellion i'r Pennaeth Gwasanaethau Ariannol a'r Swyddog A151 mewn perthynas â pha geisiadau y dylid eu cefnogi a lefel y grant i'w ddyfarnu.  Bydd yr Is-bwyllgor yn penderfynu a yw ymgeisydd yn ‘eithriadol’ ei natur.

Tystiolaeth o gostau

Bydd yn ofynnol i unigolion ddarparu tystiolaeth ddogfennol o'r costau y maent yn gwneud cais amdanynt er mwyn cefnogi eu cais am grant.

Taliadau

Bydd taliad yn cael ei wneud trwy drosglwyddiad BACS i'r manylion cyfrif banc a ddarperir ar y ffurflen gais.

 Phwy Ddylwn I Gysylltu?

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Polisi a Phartneriaethau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili,
Tŷ Penallta, Parc Tredomen,
Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG

Ebost: grantiaucymunedol@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866391