Cronfa Gymunedol Viridor a’r Prosiect Gwyrdd

Mae cronfa gymunedol Viridor a’r Prosiect Gwyrdd yn rhodd o £50,000 y fl wyddyn y mae Viridor wedi ymrwymo i sicrhau ei fod ar gael i’r mentrau cymunedol sy’n gweithredu yn rhanbarthau’r awdurdod lleol sydd yn rhan o’r Prosiect Gwyrdd; Caerffi li, Caerdydd, Sir Fynwy, Casnewydd a Bro Morgannwg. Bydd y rhodd ar gael bob blwyddyn o fi s Ebrill 2016 am 25 mlynedd. Mae hyn yn cynrychioli tymor contract y Prosiect Gwyrdd i Viridor fynd i’r afael â thriniaeth ei wastraff gweddilliol (na ellir ei ailgylchu) yng Nghyfl euster Adfer Ynni Parc Trident, Caerdydd.

Dyfernir arian i brosiectau ar sail set o feini prawf sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd, angen lleol, cynnwys y gymuned, gwerth am arian ac addysg. Yna bydd yr holl brosiectau sy’n bodloni’r gofynion cymhwyso cychwynnol hyn yn cael eu sgorio ar y 10 ffactor a nodir isod.

Mae’n rhaid i geisiadau sgorio o leiaf 7 pwynt allan o’r 10 pwynt sydd ar gael isod i fod yn gymwys ar gyfer cyllid – angen lleol; cyfranogiad cymunedol, partneriaeth a budd-dal; cynaliadwyedd; budd amgylcheddol; addysg, dysgu gydol oes a sgiliau; gwerth am arian; cynhwysiant cymdeithasol a lled ymgysylltu; ymgysylltu ag amrywiaeth o fannau mynediad; bydd prosiectau sy’n cynnig manteision cryf mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn derbyn pwynt ychwanegol; bydd prosiectau o fewn ffi n yr awdurdod lleol o Barc Trident ERF yn derbyn pwynt ychwanegol.

Pwy all wneud cais am grant?

Gall unrhyw sefydliad neu grwp, sydd wedi’i gyfansoddi’n briodol, yn ddielw ac nad yw’n cael ei reoli gan awdurdod lleol wneud cais am arian. Bydd nifer y ceisiadau y gall un prosiect ei wneud dros gyfnod penodol yn cael ei gyfyngu i un fesul prosiect y fl wyddyn.

Sut i ymgeisio

Mae ffurflenni cais ar gael ar-lein yn www.viridor.co.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni wedi’u llenwi drwy e-bost i cardifferfcommunityfund@viridor.co.uk neu drwy’r post i’r cyfeiriad canlynol: Cronfa Cadernid Economaidd Caerdydd, Trident Park, Glass Avenue, Caerdydd, CF24 5EN.

Beth yw lefel y Grant sydd ar gael?

Bydd prosiectau yn cael cymorth grant hyd at £3000.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Caiff ceisiadau sy’n bodloni meini prawf y Gronfa eu hadolygu bob chwarter gan banel annibynnol, gan gynnwys cynrychiolydd Prosiect Gwyrdd, Viridor ac aelodau o’r gymuned leol. Cynhelir cyfarfodydd y panel yn chwarterol tuag at yr wythnos gyntaf y mis ym misoedd Mawrth, Mehefi n, Medi a Thachwedd. Bydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau un mis cyn cyfarfod y panel.