Cronfa Dreftadaeth y Loteri - ‘Ein Treftadaeth’

Gall grant Ein Treftadaeth eich helpu i amddiffyn a rhannu’r dreftadaeth rydych chi’n poeni amdani. Gallai eich prosiect ganolbwyntio ar unrhyw beth o atgofi on personol a thraddodiadau diwylliannol i safl eoedd archeolegol, casgliadau amgueddfa a bywyd gwyllt prin. Mae rhaglen agored Ein Treftadaeth ar gyfer unrhyw fath o brosiect sy’n ymwneud â threftadaeth genedlaethol, ranbarthol neu leol yn y DU. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg i gael grant o fwy na £10,000 a hyd at £100,000.

Mae treftadaeth yn cynnwys llawer o wahanol bethau o’r gorffennol rydym yn eu gwerthfawrogi ac yn awyddus i’w trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol, er enghraifft: safl eoedd archeolegol; casgliadau o wrthrychau, llyfrau neu ddogfennau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd neu archifau; traddodiadau diwylliannol megis storïau, gwyliau, crefftau, cerddoriaeth, dawns a gwisgoedd; adeiladau hanesyddol; hanes pobl a chymunedau; hanesion lleoedd a digwyddiadau; treftadaeth ieithoedd a thafodieithoedd; tirluniau naturiol a gerddi a gynlluniwyd; atgofi on pobl a’u profi adau (yn aml yn cael eu cofnodi fel ‘hanes llafar’); lleoedd a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â’n hanes diwydiannol, morol a thrafnidiaeth; a threftadaeth naturiol gan gynnwys cynefi noedd, rhywogaethau a daeareg.

Pwy all wneud cais am grant?

O dan y rhaglen hon, rydym yn ariannu ceisiadau gan: sefydliadau dielw; perchnogion preifat treftadaeth, gan gynnwys unigolion a sefydliadau sy’n gwneud elw; a phartneriaethau o’r uchod. Os ydych yn gwneud cais fel partneriaeth, bydd angen i chi enwebu prif ymgeisydd. Dylai’r prif ymgeisydd ddarparu cytundeb partneriaeth wedi’i llofnodi sy’n dangos sut mae pob partner yn cymryd rhan a sut y caiff y prosiect ei reoli. Os yw unigolion preifat neu fudiadau sy’n gwneud elw yn cymryd rhan mewn prosiect, naill ai fel partner neu fel prif ymgeisydd, rhaid i’r budd cyhoeddus orbwyso budd preifat.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o sefydliadau rydyn ni’n eu hariannu: grwpiau cymunedol neu grwpiau gwirfoddol; Cwmnïau Buddiannau Cymunedol; elusennau neu ymddiriedolaethau; mentrau cymdeithasol; cynghorau  cymuned/plwyf; awdurdodau lleol; sefydliadau sector cyhoeddus eraill, megis amgueddfeydd a ariennir yn genedlaethol; a pherchnogion preifat treftadaeth, gan gynnwys unigolion a sefydliadau sy’n gwneud elw.

Sut i ymgeisio

Drwy lawrlwytho’r canllawiau a’r ffurfl en gais o wefan Cronfa Treftadaeth y Loteri https://cymraeg.hlf.org.uk/looking-funding/our-grant-programmes/our-heritage. Y cyswllt swyddfa leol ar gyfer Cymru yw: T ˆy William James, 9 Museum Place, Caerdydd, CF10 3BD. Rhif Ffôn: 029 20343413 Ebost: wales@hlf.org.uk.

Beth yw lefel y grant sydd ar gael?

Mae ‘Ein Treftadaeth’ yn darparu grantiau o £10,000 i £100,000 ar gyfer prosiectau treftadaeth ar raddfa fwy. Os yw eich prosiect o fudd i bobl yng Nghymru, rydym yn disgwyl i chi wneud defnydd priodol o’r Gymraeg pan rydych chi’n cyfl awni eich prosiect, bydd angen ystyried costau cyfi eithu i’r Gymraeg gyda chostau’r prosiect.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Nid oes unrhyw derfynau amser o ran gwneud cais ar gyfer y rhaglen hon - gallwch wneud cais unrhyw adeg. Byddwn yn asesu eich cais o fewn wyth wythnos.