Cronfa Ymrymuso'r Gymuned - Meini Prawf Ymgeisio

Pwrpas y Grant

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymrwymedig i gefnogi cymunedau i ddod yn gryf a chydnerth, a chydnabod mai un o asedau mwyaf ein Bwrdeistref Sirol yw'r rhwydwaith ffyniannus o grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau ledled yr ardal.

Cafodd y Gronfa Ymrymuso'r Gymuned ei chreu i alluogi cymunedau i ddatblygu a chyflawni prosiectau, gyda'r nod o ddiwallu anghenion eu trigolion. Rhan allweddol o hyn fydd cynnwys Aelodau Ward lleol fel un o'r pwyntiau cyswllt allweddol mewn cymunedau lleol, a fydd yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol, ac yn eu helpu nhw, i ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau sy'n diwallu angen dynodedig yn y ward.

Mae gosod cyllideb flynyddol y Cyngor yn cynnwys dyraniad ariannol o £250,000 ar gyfer y cynllun grantiau, i gefnogi mentrau wedi'u harwain gan y gymuned sy'n cydweddu a chefnogi'r rhai a ddarperir trwy wasanaethau cyhoeddus. Dylid nodi bod dyraniad y Gronfa Ymrymuso'r Gymuned o £250,000 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei ddyrannu i wardiau, ac nid yn uniongyrchol i Aelodau Ward lleol.

Fodd bynnag, wrth gyfrifo dyraniadau, rhannwyd y swm o £250,000 â 69 (sef nifer y cynrychiolwyr etholedig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili), sy'n golygu dyraniad sy'n cyfateb i £3,630 fesul Aelod Ward. Mewn wardiau lle mae mwy nag un Aelod Ward, mae'r dyraniad yn cael ei luosi yn ôl nifer yr Aelodau. Er enghraifft, mae gan ward Penyrheol bedwar cynrychiolydd etholedig, felly, byddai ward Penyrheol yn elwa ar ddyraniad o £14,520 (£3,630 x 4).

Bydd prosiectau'n anelu at gefnogi cymunedau er mwyn:

  • Adeiladu capasiti cymunedol
  • Deall ac adnabod dyheadau a blaenoriaethau lleol yn well
  • Gwneud defnydd da o'r asedau presennol, gyda phrosiectau'n cael cefnogaeth cymunedau lleol
  • Cynyddu cynhwysiant gweithredol a datblygu cyfleoedd i wella ymgysylltiad ar gyfer grwpiau sy'n fwy agored i niwed ac yn anoddach eu cyrraedd
  • Datblygu asedau, gwasanaethau a phrosiectau lleol sy'n ymateb i anghenion y bobl mewn cymunedau lleol
  • Datblygu prosiectau a allai ddod yn brosiectau cymunedol cynaliadwy
  • Ategu gwasanaethau presennol mewn ardal drwy ddarparu gweithgareddau ychwanegol

Pwy all wneud cais?

Mae'n rhaid i brosiectau gael eu rheoli gan sefydliadau dielw sydd wedi'u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae'n rhaid iddynt fod yn un o'r canlynol:

  • Sefydliad neu glwb gwirfoddol/cymunedol anghorfforedig â rheolau neu gyfansoddiad mabwysiedig
  • Elusen neu Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) sydd wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau
  • Sefydliad cymunedol sy'n Gwmni Cyfyngedig trwy Warant (CLG) heb unrhyw gyfalaf cyfrannau ac sydd wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) nad yw wedi'i sefydlu er budd preifat nac yn cael ei gynnal er budd preifat: defnyddir unrhyw warged neu asedau er budd y gymuned yn unig

Noder: Rhaid bod gan bob sefydliad ei gyfrif banc ei hun yn enw'r sefydliad. Os nad oes gan y sefydliad gyfrif banc ar hyn o bryd, rhaid sicrhau hynny cyn y gellir gwneud cynnig grant ffurfiol.

Ni fydd y mathau canlynol o sefydliadau yn cael eu hariannu:

  • Unrhyw sefydliad masnachol/masnachu neu sefydliad sy'n gwneud elw lle rhennir yr elw ymhlith y Cyfarwyddwyr neu'r aelodau
  • Ceisiadau gan unigolion
  • Nid yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr

Beth all gael ei ariannu?

Gofynnodd arolwg trigolion y Cyngor yn 2021, ‘Trafodaeth Caerffili’, am farn ynghylch beth allai'r Gronfa Ymrymuso'r Gymuned ei ariannu, gyda saith maes blaenoriaeth yn dod i'r amlwg o'r adborth. Felly, mae'r saith maes blaenoriaeth hyn wedi bod yn sail i'r meini prawf ymgeisio ar gyfer prosiectau:

  • Prosiectau amgylcheddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a chynyddu gweithgaredd cymunedol
  • Prosiectau sy'n cefnogi rhagor o gydlyniant cymunedol
  • Prosiectau sy'n ceisio mynd i'r afael ag unigrwydd a theimlo'n ynysig ar draws y gymuned
  • Prosiectau cynhwysiant digidol
  • Prosiectau i annog mwy o les corfforol a meddyliol
  • Gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc/gweithgareddau addysgol (anstatudol)
  • Mentrau sy'n hyrwyddo ac yn annog diogelwch y gymuned
  • Cefnogi grwpiau cymunedol i sefydlu

Bydd yn ofynnol i sefydliadau sy'n ymgeisio ddangos tystiolaeth o'r angen am eu prosiect neu weithgaredd a'r buddion parhaol y bydd yn eu darparu i'r gymuned leol.

Ar gyfer prosiectau cyfalaf sy'n cynnwys gwaith adnewyddu, datblygu, ymestyn neu adeiladu yn achos tir ac/neu adeiladau, dylai ymgeiswyr fod yn berchen ar y tir ac/neu'r adeiladau neu fod cytundeb ffurfiol ar waith gyda'r landlord y gellir gwneud y gwaith. Yn ogystal, mewn achosion lle mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r landlord a bydd contractwr preifat yn gwneud y gwaith, bydd angen prydles neu drwydded gydag o leiaf chwe blynedd yn weddill wrth gyflwyno'r cais.

Beth na all gael ei ariannu?

  • Costau ôl-weithredol ar gyfer unrhyw brosiect, sef costau am waith sydd wedi'i wneud eisoes, neu offer a/neu ddeunyddiau sydd wedi'u prynu neu wedi'u harchebu cyn cael cynnig grant ffurfiol a llofnodi Telerau ac Amodau'r grant, a'u cyflwyno. Ni ddylai sefydliad wneud unrhyw gytundeb (ar lafar neu'n ysgrifenedig) gyda chontractwr neu gyflenwr cyn gwneud cynnig grant ffurfiol.
  • Mae'r rhestr hon yn un ddangosol yn unig ac nid yw'n gynhwysfawr.

Pryd mae modd cyflwyno cais?

Bydd sawl cylch o'r cynllun grantiau bob blwyddyn a bydd y dyddiadau cau yn cael eu rhannu ag Aelodau Ward. Bydd Aelodau Ward yn gallu gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, a'u helpu i wneud cais – i gael y manylion am eich Aelod Ward lleol, ewch i Eich Cynghorwyr (caerffili.gov.uk). Rhoddir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad eu cais oddeutu 6–8 wythnos ar ôl y dyddiad cau, yn dibynnu ar nifer y grantiau a gyflwynir ym mhob cylch.

Bydd sawl cylch o'r cynllun grantiau bob blwyddyn a bydd y dyddiadau cau yn cael eu rhannu ag Aelodau Ward. Bydd Aelodau Ward yn gallu gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol, a'u helpu i wneud cais – i gael y manylion am eich Aelod Ward lleol, ewch i Eich Cynghorwyr (caerffili.gov.uk). Rhoddir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad eu cais oddeutu 6–8 wythnos ar ôl y dyddiad cau, yn dibynnu ar nifer y grantiau a gyflwynir ym mhob cylch. 

Faint o gyllid mae modd gwneud cais amdano?

Yr uchafswm sydd ar gael i unrhyw sefydliad/grŵp cymunedol yw £3,630. Gellir dyfarnu grant o hyd at 100% o gostau'r prosiect i brosiectau cymeradwy lle mae cyfanswm y gost yn llai na £3,630. Gall prosiectau mwy sy'n costio dros £3,630 dderbyn grant o hyd at yr uchafswm, gyda disgwyliad y bydd gweddill y cyllid sy'n ofynnol yn cael ei gyrchu gan y sefydliad/grŵp cymunedol o ffynonellau eraill.

Oherwydd bod gan bob Aelod Ward ddyraniad o £3,630, gellir cynnig llai na'r uchafswm i sefydliadau os oes sawl cais mewn wardiau unigol mewn un cylch ymgeisio. Os digwydd hyn, bydd Aelodau Ward yn y ward berthnasol yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau ynghylch blaenoriaethu pa brosiectau i'w cefnogi.

Gall Aelodau Ward hefyd ddewis uno eu potiau ward ag Aelodau eraill. Nid oes angen iddynt wneud hyn a bydd angen ei drafod â'r Aelodau Ward perthnasol fesul prosiect yn ôl yr angen.

Dylai ceisiadau fod am isafswm o £1,000, a gall hyn gynnwys nifer o wahanol eitemau er mwyn cyrraedd yr isafswm hwn. Ni fydd ceisiadau am lai na £1,000 yn cael eu hystyried.

Amcanbrisiau/Dyfynbrisiau

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno amcanbrisiau/dyfynbrisiau cymaradwy i ategu eu cais. Mae angen o leiaf ddau amcanbris/ddyfynbris ysgrifenedig ar gyfer pob eitem a restrir yn yr adran ‘Manylion ariannol’ o'r ffurflen gais.

Rhaid i amcanbrisiau/ddyfynbrisiau fod yn eitemedig, yn fanwl, ac yn gymaradwy (o ran mesuriadau, cyfraddau, meintiau, manylion ac ati). Rhaid iddynt hefyd fanylu ar TAW lle bo hynny'n berthnasol.

Gwneir unrhyw gynnig grant ar sail y dyfynbris rhataf a ddarperir. Gall ymgeiswyr ddewis cyflenwr neu gontractwr drytach i gwblhau'r gwaith neu ddarparu nwyddau/gwasanaethau, ond bydd hyn ar gost yr ymgeiswyr.

Taliadau

Telir 50% o swm y grant pan gymeradwyir y grant. Bydd y 50% sy'n weddill yn cael ei ryddhau ar ôl derbyn y cofnodion ariannol angenrheidiol i ddangos bod swm y grant a ryddhawyd wrth gymeradwyo prosiect wedi cael ei wario (e.e. anfonebau a chyfriflenni banc). Ni thelir unrhyw grant pellach hyd nes bydd y dystiolaeth hon wedi'i darparu.

Amserlen prosiectau

Rhaid cwblhau pob prosiect a gymeradwyir cyn pen 18 mis o ddyddiad y llythyr cynnig ffurfiol. Bydd y cyllid ar gyfer unrhyw brosiectau na fyddant wedi'u cwblhau o fewn yr amserlen hon yn cael ei dynnu'n ôl yn awtomatig. Pan na ddarperir tystiolaeth o wariant mewn perthynas â'r grant 50% a ryddhawyd ar ôl cymeradwyo'r grant, byddwn yn ceisio adennill y grant a dalwyd ar ddiwedd y cyfnod o 18 mis.

Amserlen prosiectau

Rhaid cwblhau pob prosiect a gymeradwyir cyn pen 18 mis o ddyddiad y llythyr cynnig ffurfiol. Bydd y cyllid ar gyfer unrhyw brosiectau na fyddant wedi'u cwblhau o fewn yr amserlen hon yn cael ei dynnu'n ôl yn awtomatig. Pan na ddarperir tystiolaeth o wariant mewn perthynas â'r grant 50% a ryddhawyd ar ôl cymeradwyo'r grant, byddwn yn ceisio adennill y grant a dalwyd ar ddiwedd y cyfnod o 18 mis.

 phwy ddylwn i gysylltu?

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Tîm Polisi a Phartneriaethau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
E-bost: CYG@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 866391