Grantiau Cymunedol Maes Glo

Mae’r rhaglen hon ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol sy’n gallu dangos y bydd grant yn cael effaith gadarnhaol ar bobl sy’n byw yn hen ardaloedd glofaol Cymru o fewn y themâu canlynol: Mynd i’r afael â thlodi; Creu swyddi a chymorth cyfl ogaeth; Effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau cymunedol; Iechyd a lles; Datblygiad Menter Gymdeithasol; Cydlyniant cymunedol ac ymgysylltu; Sgiliau a hyfforddiant; Cynhwysiant ariannol.

Pwy all wneud cais am grant?

Mudiadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli neu sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n byw yn y cyn-ardaloedd Meysydd Glo dynodedig yng Nghymru. Gellir cael gwybodaeth am wardiau cymwys ar y wefan: www.coalfields-regen.org.uk.

Sut i ymgeisio

Drwy gwblhau Ffurfl en Ymholiad Prosiect sydd ar gael o www.coalfields-regen.org.uk neu drwy ffonio 01443 404 455 neu ebostio wales@coalfields-regen.org.uk. Am gymorth lleol ychwanegol a chymorth, cysylltwch ag Uwch Swyddog Datblygu CMGG, Caerffi li, ar 01633 241550.

Beth yw lefel y Grant sydd ar gael?

Mae grantiau ar gael ar gyfer rhwng £500 a £7,000 am gyfnod o 12 mis. Mae grantiau refeniw a chyfalaf ar gael.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Derbynnir ceisiadau ar sail dreigl ac fel arfer caiff penderfyniadau eu gwneud o fewn 12 wythnos o gyfl wyno.