FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Ynglŷn â’r wefan hon

Datganiad Hygyrchedd

Polisi preifatrwydd

Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni, ac rydym yn cydnabod pan ydych yn darparu gwybodaeth i ni am eich hunan, rydych yn ymddiried ynom i weithredu mewn modd cyfrifol.

Rydym yn credu y dylai'r wybodaeth hon ond gael ei defnyddio i'n helpu i ddarparu gwasanaeth gwell i chi. Dyna pam rydym wedi creu polisi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.

Ni fyddwn yn darparu eich gwybodaeth bersonol a dderbyniwyd drwy'r we i gwmnïau neu unigolion eraill heblaw ei fod yn ofynnol gan y gyfraith.

Pryd bynnag rydych yn darparu gwybodaeth sensitif (er enghraifft, rhif cerdyn credyd i wneud taliad), byddwn yn sicrhau camau rhesymol i'w diogelu, fel amgryptio rhif eich cerdyn. Byddwn hefyd yn cymryd mesurau diogelwch i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol wedi ei storio. Mae rhifau cardiau credyd ond yn cael eu defnyddio ar gyfer prosesu taliadau ac nid ydynt yn cael eu cadw ar gyfer dibenion marchnata.

Gall ein gwefannau ddarparu dolenni i safleoedd trydydd parti. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hynny, rydym yn eich annog i adolygu'r polisïau preifatrwydd ar y safleoedd trydydd parti hyn.

Bydd gwybodaeth a gasglir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei storio a'i phrosesu mewn cronfa ddata sy'n eiddo yn llwyr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cwcis

Er mwyn gwneud y wefan hon yn haws i'w defnyddio, rydym weithiau'n gosod ffeiliau data bach ar eich cyfrifiadur, llechen (tabled) neu ffôn. Gelwir y rhain yn gwcis. Mae'r mwyafrif o wefannau yn gwneud hyn.

Mae cwcis yn gwella pethau drwy:

  • cofio gosodiadau, felly does dim rhaid i chi ddal i fynd yn ôl iddynt pryd bynnag y byddwch yn ymweld â thudalen newydd
  • mesur sut rydych yn defnyddio'r wefan fel y gallwn sicrhau ei bod yn diwallu'ch anghenion.

Ni ddefnyddir ein cwcis i'ch adnabod chi'n bersonol. Maen nhw yma i wneud i'r wefan weithio'n well i chi. Yn wir, gallwch reoli a/neu ddileu'r ffeiliau bach hyn fel y dymunwch.

I ddysgu rhagor am gwcis a sut i'w rheoli, eu blocio neu eu dileu, ewch i'r wefan About Cookies website.

Ymwadiad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a geir ar y tudalennau hyn yn gywir. Serch hynny, nid yw'r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ganlyniadau sy'n deillio o ddibyniaeth ar yr wybodaeth a geir yn y tudalennau gwe hyn, neu unrhyw wybodaeth a gafwyd drwy fynediad i'r safle hwn neu'r dolenni i safleoedd eraill. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn berchen ar, ac yn prosesu gwybodaeth bersonol mewn dulliau sy'n unol â phob deddfwriaeth diogelu data presennol.

Hawlfraint 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n berchen ar hawlfraint pob deunydd ar y safle hwn, gan gynnwys heb derfyn y testun, logos, eiconau, ffotograffau a phob darlun, oni nodir yn wahanol. Caiff defnyddwyr y tudalennau hyn eu defnyddio ar sail anfasnachol heb ganiatâd gan ddaliwr yr hawlfraint. Gall ddefnydd masnachol ond gael ei wneud gyda chaniatâd datganedig blaenorol ysgrifenedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.