Gwefan a llinellau ffôn i lawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol
Postiwyd ar : 27 Medi 2022
Ni fydd gwefan, llinellau ffôn na systemau TG Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gael o 5pm ddydd Gwener 30 Medi tan 8.30am ddydd Llun 3 Hydref i’n galluogi ni i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Mewn argyfwng, ffoniwch ein gwasanaeth Tu Allan i Oriau ar 01443 875500.
Argyfyngau sy'n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol - Os yw'n argyfwng ac mae angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch 0800 328 4432.
Gwasanaeth cofrestru - Ar gyfer argyfyngau yn unig ynghylch cofrestru marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil y tu allan i'r oriau agor arferol, ffoniwch 07771 886895.
Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
.