News Centre

Digwyddiad Swyddi Gwag Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dychwelyd

Postiwyd ar : 30 Medi 2022

Digwyddiad Swyddi Gwag Byw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dychwelyd
Bydd digwyddiad poblogaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ‘Pa Ffordd Nawr?’, yn dychwelyd ar 18 Hydref 2022.

Yn y gorffennol, mae'r digwyddiad wedi denu cannoedd o bobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.

Mae'r digwyddiad, sydd mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, wedi'i anelu at ddisgyblion sy'n ymadael â'r ysgol a phobl ifanc 16–24 oed sy'n chwilio am gyngor ac ysbrydoliaeth am ba lwybr gyrfa i'w gymryd nesaf.

Bydd amrywiaeth o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn bresennol, a byddan nhw'n cynnig amrywiaeth eang o gyngor, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.

Dyma rai enghreifftiau:
  • Gwybodaeth am gyrsiau yn y coleg gan Goleg y Cymoedd a Choleg Gwent
  • Gwybodaeth am addysg uwch a chyfleoedd prifysgol
  • Gwybodaeth am hyfforddeiaethau a phrentisiaethau
  • Swyddi gwag lleol
  • Cyngor cyffredinol o ran gyrfaoedd
  • Cymorth o ran sgiliau chwilio am swydd 

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys adloniant fyw a chyfle i ennill aelodaeth Hamdden Caerffili am dri mis am ddim.
 
Meddai'r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau, “Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd addysg a chyflogaeth ar gyfer ein holl drigolion ifanc, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni'n cynnal y digwyddiad, ‘Pa Ffordd Nawr?’, ochr yn ochr â Gyrfa Cymru eto yn dilyn ein llwyddiant yn gynharach eleni.”

Bydd ‘Pa Ffordd Nawr?’ yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerffili ddydd Mawrth 18 Hydref rhwng 10am a 2pm.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â John Poyner ar 01443 864970 neu anfon e-bost i poynej@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau