News Centre

Cyngor Caerffili yn helpu i daclo sbwriel morol ar gyfer Glanhau Moroedd Cymru

Postiwyd ar : 23 Medi 2022

Cyngor Caerffili yn helpu i daclo sbwriel morol ar gyfer Glanhau Moroedd Cymru
Mae digwyddiad glanhau morol cyntaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn llwyddiant.

Yn ystod tymor yr hydref eleni, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Cadwch Gymru’n Daclus yn galw ar wirfoddolwyr i ddod o hyd i’w codwyr sbwriel, gwneud addewid a chymryd rhan yn yr ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru, gan dargedu afonydd, dyfrffyrdd a thraethau ar draws Cymru.

Mae sbwriel morol yn fygythiad cynyddol i’n hamgylchedd dyfrol a morol, gydag 80% yn dod o ffynonellau ar y tir. Mae’r rhan fwyaf o sbwriel a geir yn ein dyfrffyrdd yn mynd i mewn i’n cefnforoedd yn y pen draw, mater nad yw’n berthnasol i ardaloedd arfordirol yn unig. Mae angen atal y broblem yn ei ffynhonnell gan gadw ein traethau a’n dyfrffyrdd yn lân er mwyn i fywyd gwyllt allu ffynnu, a’n bod yn gallu gwneud y gorau o’n hamgylchedd hardd.

Cynhaliwyd y digwyddiad glanhau cyntaf yn Heol y Clogwyn, Coed Duon, gyda gwirfoddolwyr yn casglu 20 bag o sbwriel, pram a chwe troli siopa a allai, fel arall, fod wedi llygru Afon Sirhywi gerllaw.

Fe gynhelir digwyddiadau Glanhau Moroedd Cymru o ddydd Gwener 16 Medi i ddydd Sul 2 Hydref 2022, yn targedu’r holl ddyfrffyrdd ar hyd a lled Cymru, yn cynnwys afonydd, nentydd, camlesi ac aberoedd. O’ch hoff draeth i’r nant fach yn eich pentref, gallwch wneud gwahaniaeth a helpu i fynd i’r afael â sbwriel morol.

Bydd Cyngor Caerffili yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau codi sbwriel mewn ardaloedd â phroblem sbwriel, yn agos i afonydd lleol, gan gynnwys:
  • 30 Medi, ffordd fynediad Trehir
  • 7 Hydref, Caeau Trecelyn, o dan yr A472 ger yr Otter

Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10.30am a 12pm, a bydd yr offer i gyd yn cael ei ddarparu.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd: “Rydyn ni mor hapus i gefnogi Cadwch Cymru’n Daclus a’u hymgyrch Glanhau Moroedd Cymru ac yn falch iawn o weld gwirfoddolwyr yn cefnogi achos mor bwysig.

“Rydyn ni’n lwcus iawn i gael toreth o fannau gwyrdd a thair afon yn llifo trwy ein Bwrdeistref Sirol, felly mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth eu cadw nhw’n lân a heb sbwriel.”


Ymholiadau'r Cyfryngau