News Centre

Digwyddiad Rhydweithio Busnes ym Margod

Postiwyd ar : 28 Medi 2022

Digwyddiad Rhydweithio Busnes ym Margod
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd busnesau i fod yn bresennol mewn digwyddiad rhydweithio arbennig, sy'n cael ei gynnal am 5pm brynhawn Mercher 12 Hydref 2022, yn Llyfrgell Bargod.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Dîm Menter Fusnes ac Adnewyddu y Cyngor a bydd cyfle i'r rhai sy'n bresennol gwrdd â staff y Cyngor, Cynghorwyr, a busnesau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.

Bydd agenda'r cyfarfod yn cynnwys trafod datblygiadau newydd cyffrous, rhoi sylw i nodiadau o'r cyfarfod diwethaf a chyfle i fusnesau fynegi eu barn ar yr hyn y maen nhw'n credu y dylai'r blaenoriaethau fod ar gyfer Bargod.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 5pm brynhawn Mercher 12 Hydref, yn Llyfrgell Bargod, Hanbury Road, Bargod CF81 8QR. Bydd lluniaeth yn cael ei gynnwys.

Os hoffech chi fod yn bresennol yn y Digwyddiad Rhwydweithio Busnes ar gyfer rhanddeiliaid ym Margod, anfonwch e-bost i MarchnataCymorthBusnes@caerffili.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ateb yw dydd Gwener 30 Medi 2022.


Ymholiadau'r Cyfryngau