News Centre

Llunio dyfodol gwasanaethau dydd Cyngor Caerffili

Postiwyd ar : 29 Medi 2021

Llunio dyfodol gwasanaethau dydd Cyngor Caerffili

Yn ddiweddar, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynnal ymarfer ymgynghori gyda'r nod o lunio dyfodol gwasanaethau dydd ar draws yr ardal, a daeth yr ymgynghoriad â'r mater i'r amlwg ac arwain at sylw sylweddol yn y cyfryngau am ddyfodol y gwasanaeth allweddol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol Cyngor Caerffili, “Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r teimlad cryf yn y gymuned am y gwasanaeth gwerthfawr hwn, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n gwrando ar farn ein trigolion. Wrth werthuso'r adborth cychwynnol, mae'n amlwg bod angen i'r Cyngor wneud gwaith pellach a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud i'n helpu ni i ddarparu gwasanaeth gofal dydd modern, addas at y diben sy'n diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth. Felly, rydyn ni'n mynd i ailasesu ein cynigion a chynnal ymgynghoriad pellach a fydd yn cynnwys ymgysylltiad ehangach a fydd yn cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u heiriolwyr. Bydd hyn yn her oherwydd logisteg, adnoddau ac effaith bosibl COVID-19, felly mae'n debygol y bydd yr amserlenni gwreiddiol ar gyfer cwblhau'r adolygiad hwn yn cael eu hymestyn yn unol â hynny. 

“Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu cymorth sesiynol yn y gymuned ac mewn canolfannau. Byddwn ni hefyd yn anelu at agor capasiti ychwanegol yn fuan iawn, sy'n debygol o olygu ailagor dwy ganolfan ddydd arall yn raddol. 

“Rydyn ni'n gwybod bod angen mwy o gymorth ar rai pobl a byddwn ni'n ceisio darparu hyn cyn gynted ag y bydd capasiti yn caniatáu,” meddai'r Cynghorydd Cook. “Fodd bynnag, mae'n bwysig pwysleisio bod coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad go iawn, felly, yn anffodus, nid ydyn ni'n gallu ailagor Canolfannau Dydd yn yr un modd ag y gwnaethom ni cyn y pandemig, oherwydd rheoliadau Llywodraeth Cymru, asesiadau risg a gallu gweithredu'r cyfleusterau'n ddiogel wrth wneud yn siŵr ein bod ni'n diogelu defnyddwyr a staff. Byddwn ni'n darparu gwybodaeth wedi'i diweddaru ac atebion i gwestiynau cyffredin ar ein gwefan.”



Ymholiadau'r Cyfryngau