News Centre

Groes-Faen Terrace, Bargod i gau am bum wythnos ar gyfer gwaith atgyweirio’r priffyrdd

Postiwyd ar : 29 Medi 2021

Groes-Faen Terrace, Bargod i gau am bum wythnos ar gyfer gwaith atgyweirio’r priffyrdd

Yn dilyn ymchwiliadau tir helaeth ac arolygon draenio, mae Tîm Priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi penderfynu bod angen ailosod y draeniau ar Groes-Faen Terrace, Bargod, er mwyn atal dirywiad pellach ar y ddaear.

Fel rhan o'r gwaith cyn-alluogi, bydd cyfnod cau dros benwythnos yn dechrau am 8am ar 9 Hydref tan 4pm ar 10 Hydref ar waith rhwng Groes-Faen Terrace a chyffordd Factory Road. Mae'r gwaith hwn a'r gwaith atgyweirio dilynol yn dibynnu ar y tywydd ac yn destun newid ar fyr rybudd.

Y dyddiad cychwyn disgwyliedig ar gyfer y gwaith adnewyddu ffyrdd a draeniad yw 18 Hydref 2021 a disgwylir y bydd yn cymryd saith wythnos i'w gwblhau.

Bydd ffordd Groes-Ffaen Terrace hyd at y gyffordd â Factory Road ar gau am bum wythnos ynghyd â chyfnod cau dros benwythnos ychwanegol ynghyd ag wythnos o gau lôn sengl. Ni fydd yr A469 / Factory Road ar gau yn ystod y gwaith hwn.

Bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal lle bo hynny'n ymarferol, fodd bynnag, bydd y llwybr dargyfeirio ar gyfer cerddwyr ar hyd llwybr Beicio Cwm Darran, a elwir hefyd yn Bristol Terrace.

Bydd y prif lwybr bws yn cael ei ddargyfeirio, bydd manylion llawn yn cael eu darparu ar wahân a'u hysbysebu mewn cymunedau lleol. Bydd y disgyblion a'r ysgolion sy'n cael eu heffeithio yn derbyn amseroedd casglu diwygiedig yn fuan. Sylwch y bydd y lleoliadau casglu yn aros yr un fath ond byddan nhw'n digwydd yn y drefn arall.

Mae'r rhain yn waith cloddio cymhleth a dwfn a'r unig fodd o wneud y gwaith hwn yn ddiogel yw trwy gau ffordd. Cafodd yr holl opsiynau eraill eu hystyried cyn cadarnhau bod y ffordd yn cau fel dull cytunedig.

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd cau'r llwybr hwn yn effeithio ar drigolion lleol, gwasanaethau bysiau ysgol, gwasanaethau bysiau cyhoeddus a modurwyr trwy gydol cyfnod y gwaith. Ymddiheurwn am unrhyw aflonyddwch ac anghyfleustra y gall y cynllun hwn ei achosi.



Ymholiadau'r Cyfryngau