News Centre

Mae buddsoddiad mewn i Canolfan Hamdden Trecelyn yn gweld offer nofio a chwarae newydd

Postiwyd ar : 27 Medi 2021

Mae buddsoddiad mewn i Canolfan Hamdden Trecelyn yn gweld offer nofio a chwarae newydd
Mae Canolfan Hamdden Trecelyn wedi derbyn buddsoddiad o £90,000 i osod offer chwarae rhyngweithiol newydd yn y pwll. 
 
Mae'r nodweddion chwarae newydd yn cynnwys jetiau dŵr lefel uchel ac isel, bowlenni dŵr, chwistrellau dŵr a bwcedi tipio y mae modd i blant o bob oedran a gallu eu defnyddio.  
 
Mae'r offer chwarae synhwyraidd ryngweithiol yn archwilio ffyrdd newydd o fagu hyder ym mhob plentyn gan ganiatáu iddyn nhw archwilio'r amgylchedd dŵr a herio ysgogiadau gweledol, clywedol a chyffyrddol plant. Gall plant ymgysylltu â'u holl synhwyrau trwy'r offer chwarae dŵr newydd.  
 
Dywedodd Ross Whiting, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddysgu a Hamdden “Mae'n fuddsoddiad gwych ar gyfer chwaraeon a nofio yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r cyfleusterau newydd yn darparu rhagor o gyfleoedd i blant ac rwy'n siŵr y byddan nhw yn cael eu mwynhau am flynyddoedd lawer i ddod”.  
 
Mae modd cadw lle ym mhob sesiwn ymlaen llaw gyda chadw niferoedd cyfyngedig, cadw pellter cymdeithasol a rhagor o lanweithdra yn flaenoriaeth yng Nghanolfan Hamdden Trecelyn. Mae sesiynau nofio i'r cyhoedd ychwanegol bellach ar gael ar yr amserlen i wneud rhagor o ddefnydd o'r pwll nofio.
 
Yn dilyn gwersi nofio llwyddiannus, bydd bloc pedair wythnos ychwanegol o wersi nofio yn cychwyn o ddydd Gwener 3 Medi. Bydd y rhaglen Dysgu i Nofio arferol yn ailddechrau ar 1 Hydref gydag asesiad risg mewn lle ar bob safle.
 
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyfleusterau hamdden eraill, cliciwch yma:
https://www.caerphilly.gov.uk/Things-To-Do/Sports-and-Leisure/Leisure-centres


Ymholiadau'r Cyfryngau