News Centre

Helpwch ni i gadw Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dysgu

Postiwyd ar : 15 Medi 2021

Helpwch ni i gadw Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dysgu

Gan fod eich plentyn bellach wedi dychwelyd i'r ysgol, mae angen i chi barhau i'n helpu ni i reoli lledaeniad y feirws trwy wneud y canlynol:

  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw’n sâl. Os yw'ch plentyn yn dangos symptomau coronafeirws, trefnwch brawf PCR. 
  • Os bydd angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu dacsi i gludo'ch plentyn i'r ysgol, gwnewch hynny'n ddiogel trwy wisgo gorchudd wyneb neu ystyried cerdded neu feicio lle bo hynny'n bosibl. 
  • Heblaw bod dim dewis gennych chi, peidiwch â rhannu lifft gyda theuluoedd eraill. Os ydych chi'n rhannu lifft, gwisgwch orchudd wyneb a chadw ffenestri'r car ar agor lle bo hynny'n bosibl.
  • Pan rydych chi'n gollwng a chasglu'ch plentyn o'r ysgol, cofiwch gadw'ch pellter oddi wrth rieni eraill a pheidio ag aros i sgwrsio.
  • Golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • Rydyn ni'n argymell bod disgyblion ysgolion cyfun yn gwneud prawf llif unffordd dwywaith yr wythnos ac yn rhoi gwybod am ganlyniadau eich plentyn yma: https://www.gov.uk/report-covid19-result  

Diolch am bopeth a wnewch chi i #CadwCaerffiliYnDysgu

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru 



Ymholiadau'r Cyfryngau