News Centre

Cyngor Caerffili yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailagor ei adeiladau

Postiwyd ar : 30 Medi 2021

Cyngor Caerffili yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailagor ei adeiladau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ailagor ei adeiladau i'r cyhoedd.

Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo cynigion i ddechrau ailagor nifer o’i adeiladau, yn unol â chanllawiau Lefel Rhybudd Sero gan Lywodraeth Cymru.

O ddydd Llun 4 Hydref, bydd ymweliadau trwy apwyntiad yn unig ar gael i aelodau o'r cyhoedd ym mhencadlys y Cyngor, Tŷ Penallta. Mae apwyntiadau yn gallu cael eu trefnu trwy gysylltu â Thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid y Cyngor ar 01443 866571; ni fydd ymwelwyr heb apwyntiad yn cael mynd i'r adeilad.

Dywedodd y Cynghorydd Colin Gordon, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Corfforaethol, “Trwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi addasu'r ffordd rydyn ni'n gweithio i barhau i ddarparu gwasanaethau i'n trigolion. Rydyn ni'n deall, fodd bynnag, fod cael mynediad corfforol i'n hadeiladau yn bwysig i rai pobl.

“Mae asesiadau trylwyr wedi cael eu cynnal ym mhob adeilad i nodi pa fesurau y mae'n rhaid eu rhoi ar waith i sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr. Byddwn ni nawr yn symud ymlaen gyda gweithredu'r mesurau hyn yn ein hadeiladau, gan ddechrau gydag ailagor Tŷ Penallta.

“Mae angen rhai newidiadau gweithredol i alluogi ymwelwyr i ddychwelyd i'n hadeiladau; gofynnwn ni am amynedd a dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.”


Ymholiadau'r Cyfryngau