News Centre

Cabinet Caerffili yn cefnogi lles gweithwyr

Postiwyd ar : 15 Medi 2021

Cabinet Caerffili yn cefnogi lles gweithwyr
Cymeradwyodd Cabinet Caerffili gynigion yn unfrydol ar gyfer cyflwyno pecyn buddion i staff wedi'i ddylunio i gefnogi Iechyd a Lles gweithwyr, fel rhan o Raglen Drawsnewid Tîm Caerffili sy'n mynd yn ei blaen.
 
Bydd y pecyn buddion i staff yn cael ei ddarparu gan y platfform MyAdvantages, gan Edenred, heb unrhyw gost i'r awdurdod, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Mae disgwyl i'r platfform ategu'r cynigion presennol sydd ar gael i staff, fel talebau gofal plant a'r cynllun beicio i'r gwaith.
 
Mae'r platfform hefyd yn galluogi busnesau lleol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili i hyrwyddo eu busnesau a'u cynigion yn uniongyrchol i weithwyr gan gryfhau ymrwymiad yr awdurdod ymhellach i annog staff a thrigolion i siopa'n lleol.
 
Meddai'r Cynghorydd Colin Gordon, Aelod Cabinet dros Lywodraethu Corfforaethol, “Trwy gydol y pandemig, mae staff o bob cornel o'r sefydliad wedi cyfrannu'n sylweddol at waith y Cyngor ac at ddarparu gwasanaethau ar draws ein cymunedau yn ystod cyfnodau anodd iawn. Mae'r teyrngarwch a'r ymrwymiad wedi'u dangos gan y staff wedi bod yn eithriadol a bydd cyflwyno'r cynllun hwn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i roi rhywbeth yn ôl i'r rhai sydd wedi cyfrannu cymaint. Gall y cynllun buddion hefyd gynnig cymorth ariannol i'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio'n ariannol gan y pandemig neu gyfnodau o galedi.”
 
Ychwanegodd, “Rydyn ni'n llwyr gydnabod y cysylltiadau rhwng lles gweithwyr – gan gynnwys lles ariannol – a pherfformiad busnes. Mae gweithle iach, sy'n hyrwyddo cyflwr o foddhad, o fudd i weithwyr a'r sefydliad.”


Ymholiadau'r Cyfryngau