News Centre

Estyniad ysgol yn fuddiol i bawb dan sylw

Postiwyd ar : 05 Hyd 2022

Estyniad ysgol yn fuddiol i bawb dan sylw
Trinity Fields School sign

Mae cynlluniau i ymestyn ysgol arbennig flaenllaw yn Ystrad Mynach wedi cael caniatâd gan Gabinet Cyngor Caerffili.

Mae cynigion amgen ar gyfer Ysgol Cae'r Drindod bellach wedi'u cytuno yn dilyn pryderon y byddai'r cynlluniau gwreiddiol wedi arwain at golli cae chwaraeon cyfagos i wneud lle ar gyfer y gwaith ymestyn.

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, y penderfyniad, “Yn ôl ym mis Gorffennaf, sicrheais i'r gymuned ein bod ni'n edrych ar opsiynau newydd i ad-drefnu a chyflawni’r cynllun gyda llai o effaith ar yr ardal gyfagos.”

“Mae’r ateb rydyn ni wedi cytuno arno heddiw yn rhoi lle i bawb dan sylw – bydd yr ysgol yn cael estyniad y mae mawr ei angen a bydd y gymuned yn cael cadw’r cae chwarae cyfagos.”

“Mae’r staff anhygoel yn Ysgol Cae'r Drindod yn helpu’r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymuned ni, ac mae’n amlwg bod angen i’r ysgol dyfu i gwrdd â’r galw cynyddol am leoedd. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd wedi gwrando ar y pryderon y mae'r gymuned wedi'u codi ynghylch y posibilrwydd o golli mannau gwyrdd, felly, rwy’n falch ein bod ni bellach wedi cytuno ar ateb sy’n fuddiol i bawb.”

Mae’r cynlluniau diwygiedig yn ymwneud â datblygu estyniad deulawr newydd ar ran o faes parcio presennol yr ysgol, a fydd yn creu deg ystafell ddosbarth newydd ac yn darparu cyfleusterau ychwanegol o fewn yr ysgol.

Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) Llywodraeth Cymru.

Gan nad yw'r cynigion diwygiedig hyn yn darparu cymaint o gapasiti na chymaint o gyfleusterau ychwanegol â'r cynlluniau gwreiddiol, bydd y Cyngor nawr yn ymchwilio i opsiwn mwy hirdymor i greu ail ysgol arbennig yn y Fwrdeistref Sirol o dan Fand C y rhaglen.



Ymholiadau'r Cyfryngau