Diweddariad am gludiant i'r ysgol a’r coleg
Postiwyd ar : 14 Hyd 2021
Bydd gweithredu diwydiannol yr wythnos nesaf yn effeithio ar nifer o wasanaethau bysiau y mae Stagecoach Ltd yn eu darparu. Mae hyn yn debygol o gynnwys cludiant i ysgolion a cholegau mewn rhai ardaloedd, yn enwedig i ddysgwyr sydd â thocynnau tymor.
Gwiriwch wefan Stagecoach i gael y newyddion diweddaraf am wasanaethau y mae'r gweithredu diwydiannol yn effeithio arnynt..