News Centre

Pont droed Court Road ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu – 23 Hydref 2021

Postiwyd ar : 21 Hyd 2021

Pont droed Court Road ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu – 23 Hydref 2021
Court Road Footbridge

Yn dilyn dadosod pont droed Court Road dros dro ar 28 Awst 2021 ar gyfer gwaith cynnal a chadw, gwnaethom ni nodi diffygion anstrwythurol ychwanegol roedd angen eu hatgyweirio.

Bellach, y dyddiad arfaethedig ar gyfer ailosod y bont yw dydd Sadwrn 23 Hydref 2021 yn dibynnu ar y tywydd.

Sylwch y bydd gwaith ailosod y bont yn golygu cau'r A469/A468 dros nos rhwng cylchfannau Trecenydd a Phwll-y-pant rhwng tua 8pm nos Sadwrn ac 8am fore Sul yn dibynnu ar y tywydd.

Rydyn ni'n sylweddoli'r effaith y bydd y gwaith cynnal a chadw yn ei chael ar lif traffig a cherddwyr. Ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra.



Ymholiadau'r Cyfryngau