News Centre

Cystadleuaeth Pwmpenni 2021

Postiwyd ar : 26 Hyd 2021

Cystadleuaeth Pwmpenni 2021

Mae trigolion Caerffili yn cael eu hannog i ailgylchu eu pwmpenni y Calan Gaeaf hwn trwy gystadleuaeth siriol a llawn hwyl.

Bydd pob pwmpen sy'n cael ei gadael ar ben y cadi bwyd rhwng 1 Tachwedd a 12 Tachwedd yn cael ei chynnwys mewn raffl fawr lle gallai 10 o drigolion lwcus fod â chyfle i ennill taleb ‘Love2shop’ gwerth £50.

Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw tynnu llun o'ch pwmpen ar ben eich cadi bwyd ac e-bostio'r ddelwedd i ailgylchu@caerffili.gov.uk ynghyd â'ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn.

Sylwch fod pwmpen yn llawn fitaminau a mwynau hanfodol, felly, pan fydd eich pwmpen wedi'i gwacáu bydd modd defnyddio cnawd y bwmpen i wneud cawl blasus, pastai bwmpen a llawer mwy. Mae pwmpen hefyd yn gwneud dewis arall gwych yn lle tatws melys. Mae modd tostio hadau pwmpen ac maen nhw'n gwneud ychwanegiad blasus, iach at gawliau, pasta a salad.

Rysáit Myffin Pwmpen cyflym a hawdd

Cynhwysion:
225g o flawd plaen
2 lond llwy de o bowdr codi
1 llond llwy fwrdd o sinamon wedi'i falu (neu 2 lond llwy de o sbeis pwmpen)
100g o siwgr mân
50g o siwgr brown golau meddal
200g o biwrî pwmpen (o dun neu wedi ei baratoi eich hun)
2 wy mawr
125g o fenyn wedi'i halltu ychydig, wedi'i doddi

Dull:
Cam 1: Cynheswch y popty i 200C/180C ffan/nwy 6. Paratowch dun myffins â 12 twll gyda chasys myffins. Cymysgwch y blawd, y powdr codi, y sinamon a'r ddau siwgr gyda'i gilydd mewn powlen fawr. Rhannwch unrhyw lympiau o siwgr brown trwy eu rhwbio rhwng eich bysedd.

Cam 2: Chwisgiwch y piwrî a'r wyau gyda'i gilydd mewn jwg, yna ychwanegwch at y cynhwysion sych gyda'r menyn wedi'i doddi. Chwisgiwch am 1–2 funud gyda chwisg llaw drydan nes ei fod wedi cyfuno ychydig.

Cam 3: Pobwch y cyfan am 15 munud nes eu bod yn euraidd ac wedi codi a bod sgiwer wedi'i wthio i mewn iddyn nhw yn dod allan yn lân. Codwch nhw, a'u rhoi ar rac weiren i oeri yn llwyr. Byddan nhw'n cadw am dri diwrnod mewn cynhwysydd aerglos.

Rysáit pwmpen gan BBC Good Food.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Mae cerfio pwmpen yn uchafbwynt Calan Gaeaf i lawer o deuluoedd ac mae modd ei wneud yn ddiogel yn eich cartref eich hun. Hyd yn oed gyda'r cyfyngiadau wedi llacio, byddwn i'n dal i annog pobl i fod yn ystyriol wrth gymysgu a rhyngweithio â ffrindiau a theulu yn ystod dathliadau Calan Gaeaf eleni. Byddwn i'n annog trigolion i roi cynnig ar ryseitiau gan ddefnyddio pwmpenni i osgoi gwastraff bwyd, ac i fanteisio i'r eithaf ar y gystadleuaeth hon trwy ailgylchu'ch pwmpenni wedi'u cerfio.”

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yng Nghaerffili, ewch i www.caerffili.gov.uk/ailgylchu



Ymholiadau'r Cyfryngau