News Centre

Mae Dragons Rugby yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’

Postiwyd ar : 21 Hyd 2021

Mae Dragons Rugby yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’
Mae’r Dragons Rugby wedi bod yn helpu i hyrwyddo ymgyrch fawr gwrth-gasineb Llywodraeth Cymru Mae Casineb yn Brifo Cymru.
 
Cyhoeddwyd y buddugol yn y gystadleuaeth i ysgolion i ddylunio posteri gwrth-hiliaeth, a noddwyd gan y clwb, yn ystod eu gêm yn erbyn y Stormers ddydd Gwener.
 
Ac roedd aelodau tîm cydlyniant Gorllewin Gwent wrth law i ddosbarthu deunydd am ddim yn hybu cefnogaeth i ddioddefwyr trais casineb.
 
Meddai Kieron Porter, swyddog cydraddoldeb y Dragons Rugby: “Mae’n dda gweithio gyda’r awdurdod lleol a Chymorth i Ddioddefwyr i ddelio â phob math o gasineb mewn rygbi a’r gymuned ehangach. Rydym eisiau hybu’r ffaith bod rygbi i bawb ac nad oes lle i gasineb yn ein gêm.”
 
Ychwanegodd Mike Morgan, Swyddog Cydlyniant Cymunedol: “Mae rygbi yn rhan fawr o’n diwylliant yng Ngwent; nid oes angen i chi yrru’n bell i weld y set nesaf o byst rygbi ar draws y rhanbarth yma. Bydd awdurdodau lleol Gwent a'r Dragons yn parhau gyda’n partneriaeth i ddwyn camwahaniaethu i ben a sicrhau bod gan bawb y teimlad eu bod yn perthyn o fewn eu cymuned.”
 
Derbyniodd enillydd y gystadleuaeth Spencer Knight, o Ysgol Gatholig St Albans, docynnau am ddim i gêm dydd Gwener ac fe gafodd grys Dragons Rugby, wedi’i arwyddo, hanner amser.
 
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Casineb yn wythnos o weithredu sy’n annog awdurdodau lleol, partneriaid allweddol a chymunedau a effeithir gan drais casineb i weithio gyda’i gilydd i ddelio â phroblemau trais casineb yn lleol. Mae troseddau casineb yn unrhyw fath o droseddau sy’n targedu person oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at anabledd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd. Gall hyn dargedu person neu eiddo. Nid oes yn rhaid i ddioddefwr fod yn aelod o’r grŵp a dargedir gan yr elyniaeth; yn wir, gall unrhyw un ddioddef trais casineb.
 
Os ydych yn ddioddefwr trais casineb, mae cymorth ar gael i chi gan Gymorth i Ddioddefwyr drwy ffonio’r ganolfan trais casineb ac adrodd genedlaethol ar 03003031982.


Ymholiadau'r Cyfryngau