News Centre

Cymeradwyo cynigion cyffrous Ysgolion yr 21ain Ganrif

Postiwyd ar : 13 Hyd 2021

Cymeradwyo cynigion cyffrous Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae Cabinet Cyngor Caerffili wedi’i gymeradwyo i symud ymlaen i ymgynghori ar gyfer tri phrosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif o dan y rhaglen Band B.
 
Bydd y gymeradwyaeth yn gweld yr awdurdod yn symud ymlaen i ymgynghori â rhanddeiliaid ar dri phrosiect allweddol a fydd yn trawsnewid yr amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion a staff, o ganlyniad i cyllid gan Llywodraeth Cymru a chyfraniad gan Warchodfa Llywio Lleoedd Cyngor Caerffili.
 
Bydd y gymeradwyaeth yn golygu y bydd yr awdurdod yn symud ymlaen i'r cam nesaf yn achos pob un o'r tri phrosiect allweddol a fydd yn trawsnewid yr amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion a staff.
 
Canolfan i Ddysgwyr Agored i Niwed, gwerth £5.5 miliwn – Cynnig i addasu ac adnewyddu hen adeilad ysgol ramadeg (hen Ysgol Uwchradd Pontllan-fraith) ar gyfer darparu canolfan newydd, addas i'r pwrpas, i ddysgwyr agored i niwed ledled yr ardal.
 
Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon, gwerth £4 miliwn – Cynnig i gyfuno'r ddwy ysgol trwy ehangu ac adnewyddu safle presennol Ysgol Fabanod Llanfabon. Fe allai'r Ysgol Gynradd newydd gynnig 275 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa.
 
Ysgol Gynradd Plasyfelin, gwerth £9 miliwn – Cynnig i adeiladu ysgol newydd a mwy ar dir safle presennol yr ysgol, ar gyfer ateb y galw rhagamcanol yn yr ardal yn y dyfodol. Fe allai'r ysgol newydd ddarparu 420 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa.
 
Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg, “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu cyflwyno achos busnes cadarn ar ôl cael cymeradwyaeth y Cabinet i sicrhau'r cyllid i fwrw ymlaen â chamau cynllunio'r prosiectau hyn. Mae gennym ni hanes o ddatblygu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'n dysgwyr wella, cyflawni a theimlo'n ysbrydoledig, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n ymateb i'r her unwaith eto.
 
“Mae gennym ni uchelgeisiau beiddgar i roi'r cyfleoedd bywyd gorau i bob dysgwr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn trwy ddarparu addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws ein hysgolion.”
 
Mae'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol, sy'n cael ei hariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen hefyd yn cyfrannu at Fframwaith Lles a Llunio Lleoedd y Cyngor o ran buddsoddi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.


Ymholiadau'r Cyfryngau