News Centre

Cynghorwyr yn cefnogi cynllun cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yng nghyfarfod llawn y Cyngor

Postiwyd ar : 08 Hyd 2021

Cynghorwyr yn cefnogi cynllun cewynnau y gellir eu hailddefnyddio yng nghyfarfod llawn y Cyngor
Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gynnig i weithredu system dalebau i annog teuluoedd i newid o gewynnau tafladwy i gewynnau y gellir eu hailddefnyddio.

Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd Andrew Farina-Childs mewn cyfarfod Cyngor llawn yn gynharach yr wythnos hon ddydd Mawrth, 5 Hydref.

Mae cewynnau defnydd sengl yn cael eu gwneud gan ddefnyddio plastigau, elastigs, glud, mwydion papur a chemegau; felly nid yw cewynnau yn dirywio'n hawdd ac yn gallu trwytholchi tocsinau i'r ddaear.

Mae awdurdodau lleol eraill yng Nghymru eisoes wedi mabwysiadu cynlluniau cymhelliant taliad arian-yn-ôl i newid i gewynnau y gellir eu hailddefnyddio, trwy broses ymgeisio syml.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a  Strydoedd, “Fel Cyngor sy'n ymroddedig i leihau gwastraff a charbon niwtral, gallai'r cynllun syml hwn leihau gwastraff, arbed arian i deuluoedd ac arbed ein hamgylchedd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau