News Centre

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar rent

Postiwyd ar : 26 Hyd 2021

Gofyn i denantiaid Cyngor Caerffili fynegi eu barn ar rent
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i denantiaid roi eu barn ar y rhent y maen nhw'n ei dalu.

Mae tenantiaid yn cael eu gofyn a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg, yn fforddiadwy, ac a yw'r gwasanaeth tai maen nhw'n ei dderbyn gan y Cyngor yn werth am arian.      

Mae arolwg byr ar gael ar-lein ar wefan y Cyngor.  Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl fawr lle bydd un enillydd yn cael taleb siopa gwerth £150 a bydd tri yn ennill talebau siopa gwerth £50.

Bydd yr arolwg yn gorffen Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2021.

Am ragor o wybodaeth, neu am help i lenwi'r arolwg, cysylltwch â Thîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned y Cyngor ar 01443 811433 / 811432 neu e-bostio CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau