News Centre

Cabinet yn cytuno ar weledigaeth ar gyfer tai

Postiwyd ar : 27 Hyd 2021

Cabinet yn cytuno ar weledigaeth ar gyfer tai
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, heddiw (dydd Mercher 27 Hydref), wedi cymeradwyo Strategaeth Tai Lleol, sy'n nodi ei flaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Strategaeth Tai Lleol yn darparu fframwaith i'r Cyngor a'i bartneriaid i fynd i'r afael ag amrywiaeth o anghenion tai gan gynnwys digartrefedd, tai adfeiliedig, diffyg llety addas ac ati, sy'n atal pobl rhag byw mewn cartrefi diogel, o ansawdd da, fforddiadwy mewn cymunedau bywiog a chynaliadwy.

Cafodd ‘Strategaeth Tai Bwrdeistref Sirol Caerffili: Agenda ar gyfer Newid (2021–2026)’ ei llunio yn dilyn ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae'n nodi gweledigaeth ar gyfer tai ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan ganolbwyntio ar ddarparu tai newydd, cynnal a gwella cartrefi presennol, a'r gwasanaethau sy'n helpu pobl i gael gafael ar dai a chynnal annibyniaeth i aros yn eu cartrefi am gyfnod hirach.

Mae'r weledigaeth hon hefyd yn canolbwyntio ar y gymuned ehangach, yr amgylchedd, a sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r gymuned o'r buddsoddiad mewn tai dros y pum mlynedd nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet dros Dai y Cyngor, “Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar dai diogel, addas a fforddiadwy. Mae'r strategaeth ddiwygiedig hon yn rhoi ffocws clir i ni ynghylch sut rydyn ni'n gallu gweithio gyda'n partneriaid ni i gyflawni hyn.

“Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori; mae eu barn nhw wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu'r strategaeth derfynol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Tai Lleol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau