News Centre

A Star is Torn

Postiwyd ar : 18 Hyd 2021

A Star is Torn
Ceri Dupree

Mae Ceri Dupree wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd ers bron i 30 mlynedd ac mae’n ôl gyda’i sioe wych ‘A Star is Torn’.

Ddydd Iau 21 Hydref, bydd Ceri Dupree yn dychwelyd i Sefydliad y Glowyr yn dynwared ein hoff sêr.

Dros y blynyddoedd mae Dupree wedi dynwared bron i bob seren fenywaidd fawr, o Marilyn Monroe i Madonna, Shirley Bassey i Barbara Cartland, Tina Turner i Brif Weinidog y DU, Margaret Thatcher!
Mae hefyd wedi rhoi i ni Brenhines Lloegr, Jordan a'i ychwanegiad diweddaraf, Amy Winehouse!

Mae Dupree yn sicr yn fwy na digrifwr mewn ffrog, mae ei ganu, dawnsio, actio, dynwarediad a chomedi stand-up yn arddangos talent sy'n ffrwydro'r syniad o wisgo mewn drag yn lân oddi ar y llwyfan. Mae ei sioeau yn gain, yn broffesiynol ac yn hynod ddoniol, fel y dywedodd adolygydd unwaith…

“The frocks are fabulous, the wigs wonderful, the voice versatility itself, Ceri Dupree illuminates people rather than merely impersonating them, walking a fine line between character and caricature, never being anything less than hugely funny with sharp wit, human perception and high energy!!!”

Bydd Ceri Dupree: A Start is Torn yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon ddydd Iau 21 Hydref am 7.30pm. Mae tocynnau'n costio £16.00 (yn cynnwys ffi archebu).

I gael rhagor o wybodaeth, neu i archebu tocynnau, ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01495 227206 neu ewch i'r wefan www.blackwoodminersinstitute.com

 



Ymholiadau'r Cyfryngau