News Centre

​Llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i ailagor yn llawn yr wythnos nesaf

Postiwyd ar : 26 Tach 2021

​Llyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i ailagor yn llawn yr wythnos nesaf

O ddydd Llun 29 Tachwedd 2021, nid oes angen i gwsmeriaid y llyfrgell drefnu apwyntiad ar gyfer ymweld ag adeiladau'r llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Bydd pob un o'r 18 o lyfrgelloedd yn ailagor ar gyfer mynediad agored heb yr angen i drefnu apwyntiad.
Er mwyn eich diogelwch chi, bydd y staff yn parhau i wisgo gorchudd wyneb neu feisor yn y llyfrgell, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru – a bydd cwsmeriaid yn cael eu hannog i wneud yr un peth, oni bai eu bod nhw wedi'u heithrio.

Bydd sgriniau desg Perspex, rhwystrau i atgoffa pawb i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, a rhybuddion diogelwch o ran COVID-19 yn aros yn eu lle ym mhob llyfrgell.

Nid yw'n ofynnol bellach i lyfrgelloedd osod stoc y llyfrgell dan gwarantîn ar ôl ei dychwelyd neu ei benthyca. Fodd bynnag, byddwn ni'n parhau i ddarparu cadachau gwrthfacterol a hylif diheintio dwylo yn ein holl lyfrgelloedd os ydych chi eisiau glanhau'r eitemau cyn mynd â nhw adref.

Meddai'r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Hamdden: “Ar ôl 18 mis anodd i ni i gyd yn ystod y pandemig, mae croeso mawr i'r newyddion y bydd ein holl lyfrgelloedd yn ailagor yr wythnos nesaf. 
“Rydyn ni eisiau diolch i chi i gyd am eich amynedd yn ystod y pandemig, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid presennol a newydd i'n llyfrgelloedd ni ddydd Llun nesaf.”

I gael rhagor o wybodaeth am ailagor ein llyfrgelloedd, gan gynnwys y mesurau rydyn ni wedi'u rhoi ar waith i sicrhau eich diogelwch, ewch i'r wefan: www.caerffili.gov.uk/Services/Libraries/Library-browsing?lang=cy-gb

Noder bod ein Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Swyddfeydd Arian Parod ar gau o hyd.



Ymholiadau'r Cyfryngau