News Centre

Cefnogi #Her30 Diwrnod Rhuban Gwyn Gwent 2021

Postiwyd ar : 25 Tach 2021

Cefnogi #Her30 Diwrnod Rhuban Gwyn Gwent 2021
Rydym yn gofyn i drigolion ledled Gwent gymryd rhan a chefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Iau 25 Tachwedd.
 
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig. Eleni, rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol ymrwymo i'r #Her30 i godi ymwybyddiaeth o'r 30 plentyn yng Ngwent sy'n cael eu heffeithio bob dydd gan ddigwyddiadau o gam-drin domestig yn y cartref lle mae'r heddlu wedi cael eu galw.
 
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ddinistriol mae trais gan ddynion yn erbyn menywod yn gallu ei chael, nid yn unig ar unigolion ond ar eu teuluoedd hefyd.
 
“Eleni, rydym yn annog pobl i gymryd rhan yn #Her30 i godi ymwybyddiaeth o faint yn union o blant a phobl ifanc sy'n dystion diniwed i ddigwyddiadau cam-drin domestig.
 
“Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod yn cefnogi ac annog pobl eraill i godi llais yn erbyn trais yn erbyn menywod ac annog unrhyw un sy'n dioddef cam-drin i ddweud wrth rywun a cheisio cymorth. Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.”
 
Meddai'r Aelod Cabinet dros Ddiogelwch y Cyhoedd, Nigel George, “Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddod â thrais a cham-drin yn erbyn menywod a merched i ben. Trwy gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn, rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn ymgysylltu â'r gymuned leol i sefyll yn erbyn trais. Rwy'n gobeithio gweld llawer o unigolion, ysgolion a sefydliadau yn cymryd rhan yn #Her30 ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.”
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a Heddlu Gwent i gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn trwy annog ysgolion, clybiau chwaraeon a sefydliadau i gwblhau her ym mis Tachwedd sy'n canolbwyntio ar y rhif 30.
 
Gallai #Her30 fod yn rhywbeth rydych yn ei wneud ar eich pen eich hun, fel teulu neu gyda ffrindiau. Bydd Chwaraeon Caerffili a Dull Byw Hamdden yn postio heriau dyddiol ar draws y cyfryngau cymdeithasol y gallwch eu cwblhau. Gallai'r her ddigwydd ar 25 Tachwedd neu unrhyw bryd yn ystod yr 16 o ddiwrnodau gweithredu, gan ddod i ben ar 10 Rhagfyr.
 
Dyma rai syniadau i'w hystyried ar gyfer #Her30:
  • Cerdded neu redeg 3.0 cilomedr neu filltir.
  • Beicio 30 cilomedr, ar eich pen eich hun neu mewn tîm cyfnewid gyda ffrindiau.
  • Pobi 30 o deisennau gyda'r teulu neu'r sefydliad.
  • Addurno 30 o wrthrychau â rhuban gwyn neu ddyfyniadau i rymuso merched a menywod.
  • Gwneud 30 o bethau bychain. 
Ar ôl cwblhau'r her, gallwch rannu'ch cyflawniadau ar y cyfryngau cymdeithasol, dilyn a thagio @Sport_Leisure @Leisure_CCBC @CaerphillyCBC @GwentVAWDASV @GwentPCC @HeddluGwent @GwentPolice a defnyddio'r hashnodau #RhubanGwyn2021 #DimEsgusDrosGamdrin #WhiteRibbonDay #NoExcuseForAbuse.
 
Mae llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gamdriniaeth. Mae'n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r bobl sy'n agos atynt. Ffoniwch: 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun: 078600 77333. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. I roi gwybod am ddigwyddiad, ffoniwch 101 neu anfonwch neges at sianeli cyfryngau cymdeithasol @HeddluGwent.


Ymholiadau'r Cyfryngau