News Centre

Ailddechrau dosbarthiadau wyneb yn wyneb Dawns ar gyfer Parkinson’s

Postiwyd ar : 25 Tach 2021

Ailddechrau dosbarthiadau wyneb yn wyneb Dawns ar gyfer Parkinson’s
Mae dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s yn ddosbarthiadau hwyliog ac anffurfiol a gynhelir gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) as English National Ballet (ENB), sydd wedi'u profi i ddatblygu hyder a chryfder, gan leddfu dros dro symptomau bob dydd i rai cyfranogwyr.

Yn ystod y pandemig, addasodd CDCCymru ac ENB y dosbarth er mwyn gallu ei ddarparu ar-lein a thrwy weithio gyda Cymunedau Digidol Cymru, cafwyd cefnogaeth i roi’r hyder a’r sgiliau i gyfranogwyr gymryd rhan mewn sesiynau ar-lein.
 
Nawr, mae CDCCymru ac ENB yn ailgyflwyno dosbarthiadau wyneb yn wyneb, gan gynnig y cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn hybiau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys Sefydliad y Glowyr Coed-duon ar foreau Mawrth a'r Tŷ Dawns, Bae Caerdydd ar brynhawniau Iau. Gweithredir yr holl ddosbarthiadau yn dymhorol ac fe’u rhestrir ar wefan CDCCymru www.ndcwales.co.uk/cy

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn dioddef o Parkinson's – gyda'r rhan fwyaf yn hŷn na 50 oed.  Nod y dosbarthiadau yw gwella symudedd a lleferydd unigolion sy’n dioddef o Parkinson’s, drwy ymarferion symud a lleisiol i gyfeiliant cerddoriaeth fyw. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sy’n ymuno unrhyw brofiad o ddawnsio, ac nid oes angen profiad o gwbl arnoch i fwynhau'r dosbarth ac i elwa arno. 

”Mae rhywbeth arbennig ynghylch y dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson’s na ellir ei ddyblygu yn llwyr ar-lein. Er bod symudiad yn ganolog i’r dosbarth, mae mwynhau cwpan o de a chwrdd â phobl sy’n deall yr un rhwystrau corfforol a chymdeithasol â chi hefyd yn rhan allweddol ohono.” Guy O’Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi CDCCymru.

Dechreuwyd cynnal dosbarth Dawns ar gyfer Parkinson’s CDCCymru yn 2015 fel hwb cysylltiedig â rhaglen Dance for Parkinson's English National Ballet.
 
Os hoffech ragor o wybodaeth ac os hoffech gofrestru i'r rhaglen fel cyfranogwr neu wirfoddolwr, cysylltwch â Guy O'Donnell, Cynhyrchydd Dysgu a Chyfranogi - guy@ndcwales.co.uk neu ffoniwch 029 2063 5600.
 
Cefnogir Dawns ar gyfer Parkinson’s gan y Moondance Foundation, Cronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, Western Power Distribution a Celfyddydau a Busnes Cymru.
 
Rydym yn parhau i lynu wrth Ganllawiau Coronafeirws Llywodraeth Cymru ac mae gennym fesurau llym ar waith i sicrhau diogelwch ein tîm a phawb sy’n ymweld â’r Tŷ Dawns.


Ymholiadau'r Cyfryngau