News Centre

Cyngor yn atgoffa landlordiaid o Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni

Postiwyd ar : 30 Tach 2021

Cyngor yn atgoffa landlordiaid o Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa landlordiaid fod gosod eiddo domestig ar rent, neu barhau i wneud hynny, yn anghyfreithlon ers mis Ebrill 2020 os oes gan yr eiddo Dystysgrif Perfformiad Ynni is na band ‘E’.

Yn achos landlordiaid sy'n gosod eiddo ar rent sydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni gyfredol ar fandiau ‘F’ neu ‘G’, mae'n rhaid gweithredu ar unwaith i gydymffurfio â rheoliadau Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni. Mae landlordiaid sy'n gosod eiddo ar rent sydd ar fandiau ‘F’ neu ‘G’, ac sy'n torri'r rheoliadau, yn agored i ddirwy o £5,000.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y Cyngor yn ymgysylltu â landlordiaid, ac yn eu helpu nhw, i sicrhau eu bod nhw'n gwneud y newidiadau pwysig hyn o ran effeithlonrwydd ynni yn eu heiddo er mwyn bodloni'r safonau gofynnol.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, cysylltwch â thîm penodol y Cyngor ar gyfer Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni drwy ffonio 01443 811375 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am reoliadau Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni, ewch i: www.gov.uk/guidance/domestic-private-rented-property-minimum-energy-efficiency-standard-landlord-guidance


Ymholiadau'r Cyfryngau