News Centre

Llwyddiant Glanhau Cymunedol

Postiwyd ar : 26 Tach 2021

Llwyddiant Glanhau Cymunedol
Mae mannau problemus o ran taflu sbwriel ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu glanhau'n llwyddiannus gan wirfoddolwyr.

Fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymuno â Caru Cymru i drefnu digwyddiadau Glanhau Cymunedol ym Mharc Lansbury a Chwmfelin-fach yn gynharach y mis hwn a buon nhw'n llwyddiannus, gydag aelodau o'r cyhoedd a gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Glanhau Cymunedol i helpu i fynd i'r afael â sbwriel.

Yn ystod y Glanhau, cafodd bagiau o sbwriel yn ogystal ag eitemau wedi'u taflu fel teiars, barbeciw a hyd yn oed sedd car eu tynnu o ardaloedd coetir fel argloddiau, a'u gwaredu'n gywir.

Dywedodd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor: “Roedd yn wych bod allan yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o'r cyhoedd i helpu i fynd i'r afael â sbwriel yn fy ward. Rydyn ni'n Fwrdeistref Sirol hardd gyda chymaint o fannau gwyrdd, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i'w chadw hi'n lân.”


Ymholiadau'r Cyfryngau