News Centre

Apêl banc bwyd y Nadolig

Postiwyd ar : 30 Tach 2021

Apêl banc bwyd y Nadolig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn apelio ar drigolion, staff a busnesau i gefnogi eu banc bwyd lleol dros yr ŵyl.

Mae banciau bwyd yn rhoi bwyd a chymorth brys i deuluoedd ac unigolion sydd mewn argyfwng ariannol. Maen nhw'n dibynnu'n fawr ar roddion, yn arbennig dros y Nadolig, ac wedi gweld y galw am eu cymorth yn cynyddu oherwydd y pandemig.

Mae'r Cyngor yn casglu rhoddion arian parod fel rhan o apêl eleni i alluogi banciau bwyd i brynu'r cyflenwadau sydd eu hangen yn fawr arnyn nhw.

Gallwch chi gyfrannu at yr apêl ar-lein trwy wefan y Cyngor. 

Mae hefyd fannau cyfrannu ledled y Fwrdeistref Sirol lle mae modd mynd ag eitemau o fwyd nad ydyn nhw'n ddarfodus  trwy gydol y flwyddyn:
  • Canolfan Iechyd Integredig Rhymni
  • Tesco, Ystrad Mynach
  • Morrisons, Bargod
  • Eglwys Sant Pedr, Aberbargod (prynhawn Mercher 12.30pm–2.30pm)
  • Tesco Extra, Rhisga
  • Morrisons, Tŷ-du
  • Aldi, Rhisga
  • One Stop, Rhisga
  • Asda, Coed Duon
  • Tesco, Crossways, Caerffili
  • Canolfan Gristnogol Oasis, Bryn Road, Cefn Fforest (bore Iau 10.00am–12.00pm)
  • Asda, CaerffiliEglwys Connect Life, Crescent Road, Caerffili (dydd Mawrth a dydd Mercher 10.00am–1.00pm)


Ymholiadau'r Cyfryngau