Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Tachwedd 2021
Apêl Ymgyrch Siôn Corn 2021 y Cyngor
News Centre
Apêl Ymgyrch Siôn Corn 2021 y Cyngor
Postiwyd ar : 01 Tach 2021
Mae Ymgyrch Siôn Corn flynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio heddiw!
Mae yna dros 600 o blant ledled y Fwrdeistref Sirol sydd mewn perygl o beidio â chael anrheg Nadolig eleni ac mae Ymgyrch Siôn Corn yn bwriadu darparu anrhegion i'r sawl sydd wedi'u henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol.
Eleni, bu'n rhaid i'n Hymgyrch Siôn Corn addasu o ganlyniad i'r pandemig cyfredol. O ganlyniad,
ni allwn ni dderbyn anrhegion
ac, felly, rydyn ni'n gofyn i drigolion roi talebau rhodd neu arian. Yna, bydd gweithwyr cymdeithasol sydd â chyswllt uniongyrchol â'r teuluoedd yn prynu anrhegion i'r plant a'u dosbarthu i'r plant mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.
I roi arian parod, gallwch ymweld â'n tudalen rhoi yma:
Rhowch nawr
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Fel y llynedd, mae 2021 wedi bod yn flwyddyn anodd arall i bawb, felly, rydyn ni am sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael anrheg arbennig y Nadolig hwn. Mae Ymgyrch Siôn Corn yn achos mor deilwng a dim ond drwy roddion hael gan drigolion a busnesau y mae'r ymgyrch yn gallu cael ei chyflawni.
"Ar ran Siôn Corn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hoffwn i ddiolch i bawb sy'n cyfrannu tuag at yr ymgyrch am eich cymorth parhaus, ac rwy'n gwybod y bydd Ymgyrch Siôn Corn 2021 yr un mor llwyddiannus â blynyddoedd blaenorol."
Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymgyrch e-bostio
YmgyrchSionCorn@caerffili.gov.uk
neu ffonio
01443 866577
.
Byddwch chi'n cael gwybodaeth am sut i roi taleb rhodd neu roi rhodd arian drwy e-ffurflen ddiogel ar wefan y Cyngor.
Y gwerth sydd wedi’i awgrymu ar gyfer pob taleb/cerdyn rhodd neu rodd arian yw
£10.00
.
Gallwch chi bostio’r cardiau rhodd i ‘Ymgyrch Siôn Corn’, Tŷ Penallta, Parc Tredomen CF82 7PG neu eu gollwng yn y lleoliadau canlynol erbyn
dydd Gwener 26 Tachwedd
:
Y blwch post o flaen Tŷ Penallta, Parc Tredomen CF82 7PG.
Canolfan Hamdden Caerffili CF83 3SW.
Canolfan Hamdden Trecelyn NP11 5FE.
Canolfan Hamdden Heolddu CF81 9GF.
Canolfan Hamdden Rhisga NP11 6GH.
Canolfan Hamdden Cefn Fforest NP12 3JX.
Canolfan Hamdden Bedwas CF83 8BJ.
Llyfrgell Caerffili CF83 1JL.
Llyfrgell Bargod CF81 8QR.
Llyfrgell Rhisga NP11 6BW.
Llyfrgell Rhymni, NP22 5NU.
YMCA Bargod CF81 8JA.
Apex Estate Agents, Bargod CF81 8QX.
Banc Barclays, Ystrad Mynach CF82 7AA.
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon NP12 1AA.
Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin CF83 1SN.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Teyrngedau i'r cyn Faer
Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn diolch i drigolion am eu rhan mewn treial ailgylchu gwastraff bwyd llwyddiannus
Gwasanaeth teleofal Caerffili yn mynd yn ddigidol
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y