News Centre

Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change - Addewid mis Mai

Postiwyd ar : 13 Mai 2022

Gwnewch y Pethau Bychain – Make One Small Change - Addewid mis Mai
Bob mis byddwn yn herio staff a phreswylwyr i wneud un newid bach i helpu i wella eu defnydd a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg ac i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fod yn lle cynhwysol i weithio a byw ynddo.

Fis yma, mae gennym ni ddau addewid ar wahân – un ar gyfer y Gymraeg ac un ar gyfer Cydraddoldeb – mae'r ddau i'w gweld isod. Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n gallu cymryd rhan.

Fis yma, rydw i'n addo dechrau a chloi pob cyfarfod ar Teams yn Iaith Arwyddion Prydain.
 
I gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, 2–8 Mai 2022, hoffem ni achub ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o fyddardod, colli clyw a thinitws fis yma ac esbonio sut y gallwch chi gefnogi pobl rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Mae tua 12 miliwn o bobl yn fyddar neu â nam ar eu clyw, sy'n golygu bod un oedolyn ym mhob pump yn y Deyrnas Unedig yn cael ei effeithio yn uniongyrchol, felly, rydych chi'n debygol o gwrdd â rhywun bob dydd, er efallai nad ydych chi'n ymwybodol o hynny.

Gall pobl fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â thinitws wynebu gwahanol heriau cyfathrebu wrth weithio gartref, a all arwain at rwystredigaeth ac unigrwydd.

Os ydych chi'n gweithio gartref, efallai y byddai'n ddefnyddiol ichi siarad â'ch cydweithwyr am y ffordd orau o gyfathrebu â chi dros alwadau fideo a llais. Efallai y byddai'n ddefnyddiol rhannu'r awgrymiadau hyn:
  • Ar alwad fideo, gwnewch yn siŵr eich bod chi mewn man sydd wedi'i oleuo'n dda, ond peidiwch ag eistedd gyda golau y tu ôl ichi – gall hyn roi eich wyneb yn y cysgod a'i gwneud hi'n anoddach i rywun ddarllen gwefusau.
  • Wynebwch y camera a pheidio â gorchuddio'ch ceg wrth siarad.
  • Gwnewch yn siŵr dim ond un person sy'n siarad ar y tro – gall hyn hefyd helpu sicrhau bod capsiynau'n fwy cywir, os ydyn nhw'n cael eu defnyddio.
  • Cofiwch dewi eich meicroffon pan na fyddwch chi'n siarad i leihau sŵn cefndir.
  • Defnyddiwch y swyddogaethau sgwrsio, os ydyn nhw ar gael, wrth ddefnyddio meddalwedd fideo neu lais – maen nhw'n gallu helpu egluro manylion, yn enwedig o ran rhifau. 

Fis yma, rydw i'n addo gwrando ar orsaf radio Gymraeg
 
Mae cerddoriaeth yn ffordd wych o gyflwyno'ch hun i iaith newydd. Cyfarchion cyfeillgar, caneuon bachog, a mwy – mae gwrando ar orsaf radio Gymraeg wrth goginio neu wrth gludo'r plant i'r ysgol yn ffordd berffaith o ddysgu bach o'r iaith. Rhowch gynnig arni a gweld sut hwyl rydych chi'n ei chael.

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain dilynwch @CaerphillyCBC ar Facebook a Twitter.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau