News Centre

Coffáu canmlwyddiant Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent ym Mharc Waunfawr

Postiwyd ar : 11 Mai 2022

Coffáu canmlwyddiant Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent ym Mharc Waunfawr
Royal British Legion 100 years

I nodi canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol, bydd Lleng Brydeinig Frenhinol Gwent yn cynnal prynhawn o adloniant cerddorol, brynhawn Sadwrn 14 Mai 2022, ym Mharc Waunfawr, Crosskeys, Bwrdeistref Sirol Caerffili, rhwng 2.00pm a 6.00pm.

Bydd yr adloniant yn cynnwys Band Cymru y Lleng Brydeinig Frenhinol, Guitars for Veterans, a chôr ysgol leol, gan orffen gyda gorymdaith faneri dan arweiniad Band a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol. Bydd Seinio'r Drwm i Encilio yn cloi'r digwyddiad.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle, ac mae'r rhai sy'n mynd i'r prynhawn o gerddoriaeth yn cael eu hannog i ddod â phicnic gyda nhw a mwynhau'r dathliadau. Bydd mynediad am ddim a bydd yr holl roddion yn mynd yn syth i Apêl y Pabi.

Mae maes parcio cyhoeddus ar gael gerllaw.



Ymholiadau'r Cyfryngau