News Centre

Un o drigolion Caerffili yn troi gweddillion yn £500 o arian parod!

Postiwyd ar : 22 Meh 2022

Un o drigolion Caerffili yn troi gweddillion yn £500 o arian parod!
Mae trydydd enillydd ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gweddillion am Arian, wedi'i gyhoeddi.

Mae Karen Dear, Pen-yr-heol, wedi cael ei chyhoeddi'n drydydd enillydd ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio ym mis Mawrth 2022 yn unol ag Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd gyda'r nod o gynyddu nifer y trigolion sy'n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

Mae'r ymgyrch yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn derbyn £500.

Mae'r Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn cynyddu ailgylchu gwastraff bwyd ac arwain at leihau faint o sbwriel sy'n cael ei daflu, gan roi hwb i'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol ac ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.

Meddai Mrs Dear, “Rydyn ni wedi bod yn ailgylchu ein gwastraff bwyd ers blynyddoedd lawer, felly, fe gawsom ni ein siomi ar yr ochr orau o gael gwybod ein bod ni wedi ennill gwobr ariannol am wneud hynny. Bydd yr arian yn bendant yn ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd wrth i'r biliau barhau i gynyddu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Hoffwn i longyfarch Mrs Dear ar ennill a dweud diolch yn fawr i dîm Gwastraff ac Ailgylchu y Cyngor am eu hymrwymiad i'r fenter hon ac i gadw ein Bwrdeistref Sirol yn lân trwy eu gwaith bob dydd.

“Rydyn ni, yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi ymrwymo i greu Bwrdeistref Sirol lanach, wyrddach i bawb. Mae ailgylchu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn ffordd syml iawn i bawb ein helpu ni i gyrraedd ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030, ac rydyn ni'n obeithiol y bydd y fenter hon yn helpu cynyddu cyfranogiad ledled y Fwrdeistref Sirol.”

Bydd enillwyr yr ymgyrch, Gweddillion am Arian, yn parhau i gael eu cyhoeddi bob mis drwy gydol 2022.

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerffili.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb


Ymholiadau'r Cyfryngau