Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Newyddion    Newyddion    Mehefin 2022    Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu cynigion ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth £80m

News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu cynigion ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth £80m

Postiwyd ar : 21 Meh 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu cynigion ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth £80m

Gallai'r gwibiwr alpaidd hiraf yn y Deyrnas Unedig gael ei adeiladu mewn cyrchfan boblogaidd i dwristiaid ym Mwrdeistref Sirol Caerffili os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno ar gynlluniau uchelgeisiol sy'n cael eu llunio gan y Cyngor.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fin cyflwyno tri phrosiect adfywio cyffrous gwerth cyfanswm o £80.6 miliwn i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod yr wythnos nesaf (dydd Mercher 29 Mehefin) i ystyried adroddiad sy’n manylu ar y cynigion a’u buddion nhw i’r gymuned.

Y tri chynnig arfaethedig yw:

  • ‘Canolfan Lles’ newydd gwerth £33.6 miliwn ar dir ym Mharc Busnes Caerffili i ddarparu cyfleusterau iechyd a lles o’r radd flaenaf yn lle canolfan hamdden bresennol y dref.
  • Cynllun uchelgeisiol gwerth £12 miliwn i ddarparu atyniadau newydd a gwell i ymwelwyr yng Nghoedwig Cwmcarn a’r gamlas gyfagos, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer y gwibiwr alpaidd hiraf yn y Deyrnas Unedig.
  • Cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus gwerth £35 miliwn yng nghanol tref Caerffili, gan gynnwys ailddatblygu'r orsaf bresennol yn ganolbwynt trafnidiaeth defnydd cymysg enghreifftiol. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Os ydy'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, byddai’r ceisiadau hyn yn dod â buddion enfawr o ran gwell iechyd a lles, gwell cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwell atyniadau i ymwelwyr a fydd yn helpu hybu’r economi leol.

“Mae’r cynigion cyffrous hyn yn dangos ein gweledigaeth a’n huchelgais ni i gyflawni prosiectau mawr a fydd yn adfywio ein cymunedau ni ac yn arwain at newid cadarnhaol i drigolion lleol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae'n rhaid i ni symud mor gyflym ag y gallwn ni i yrru’r Fwrdeistref Sirol yn ei blaen. Mae'r Cabinet newydd wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd ar y cynigion hyn i sicrhau ein bod ni'n cyflwyno'r cynigion erbyn y dyddiad cau tynn. Mae’r prosiectau hyn yn newyddion mawr i’r Fwrdeistref Sirol ac os bydd y Cabinet yn cytuno ar y cynigion, byddan nhw wedyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae'r ceisiadau hyn i Gronfa Codi’r Gwastad yn uchelgeisiol, ond maen nhw wedi'u hystyried a'u datblygu yn drylwyr. Rydyn ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhannu ein gweledigaeth ni ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.”

“Os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo, byddai angen cyflawni’r prosiectau erbyn mis Mawrth 2025, felly, mae’n amlwg bod yr arian hwn o Gronfa Codi’r Gwastad yn rhoi cyfle cyffrous ond heriol i sicrhau arian i gefnogi ein strategaeth adfywio uchelgeisiol ni.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi manylion yn ddiweddar am Rownd 2 o raglen Cronfa Codi’r Gwastad. Mae disgwyl i Gymru gael 5% o'r gyllideb o £4.8 biliwn sy'n cyfateb i tua £240 miliwn. Hyd yma, mae £120 miliwn eisoes wedi'i ddyrannu i brosiectau Rownd 1 yng Nghymru.  



Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 wedi'i lansio yn Ffiliffest
  • Un o drigolion Caerffili yn troi gweddillion yn £500 o arian parod!
  • Mae digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Caerffili yn agosáu
  • Disgyblion Ysgol Uwchradd Bedwas yn dod yn gyntaf ac yn ail yn y Gystadleuaeth Aer Glân
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu cynigion ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth £80m
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl