News Centre

​Stacey Dooley yn cwrdd â Paul a Richard: Stori Cysylltu Bywydau

Postiwyd ar : 21 Ion 2022

​Stacey Dooley yn cwrdd â Paul a Richard: Stori Cysylltu Bywydau
Richard Jordan, Stacey Dooley, Tina Mustoe, Sam Temby, Paul Jordan

Bu gefeilliaid, Paul a Richard, yn byw gyda'i gilydd dan ofal eu modryb, nes iddi farw. Gallen nhw fod wedi cael eu gwahanu, fe wnaeth gofalydd Cysylltu Bywydau, Tina, gamu i’r adwy.

Roedd Paul a Richard Jordan, sydd ag anabledd dysgu, yn ymddangos yng nghyfres podlediadau diweddaraf Stacey, Fresh Starts, a gafodd ei ryddhau yr wythnos hon.

Clywodd sut y daeth y gefeilliaid, 35, a’u gofalydd, Tina, o Rogiet, i fyw gyda’i gilydd ychydig cyn y cyfyngiadau symud cyntaf oherwydd Covid-19 yn 2020, a llwyddo i ddod drwy gyfnod o drasiedi bersonol a chaledi'r pandemig.

Cyn cyfarfod â Tina, roedd Paul a Richard yn byw gyda'u modryb yng Nghasnewydd ers blynyddoedd lawer. Hi oedd eu hunig ofalydd nhw ac roedd hi wedi rheoli bron pob agwedd o'u bywydau nhw. Cafodd eu byd nhw ei droi wyneb i waered pan aeth hi i’r ysbyty yn sydyn yn 2019 a chael diagnosis o ffurf ymladdgar o ganser gydag ond chwe wythnos i fyw.

Dywedodd Paul, “Cawson ni ein hunain yn y sefyllfa waethaf y gallem ni fod wedi'i dychmygu erioed; aeth ein modryb ni, ein hunig ddarparwr gofal ni, i'r ysbyty ac, yn anffodus, bu farw yn fuan wedyn. Roedden ni’n galaru, yn ofnus o fod ar ein pennau ein hunain, ddim yn gwybod sut i ofalu amdanom ni ein hunain ac, yn bwysicaf oll, yn ofni cael ein gwahanu.”

Gyda phethau'n digwydd mor gyflym a gyda chyswllt cyfyngedig iawn â'r gwasanaethau cymdeithasol yn flaenorol, roedd y dynion mewn perygl o gael eu gadael ar y stryd pan fu farw eu modryb nhw.  Ond fe wnaeth ffrindiau i'r teulu feddwl yn gyflym a rhoi gwybod i wasanaethau cymdeithasol Casnewydd, a gyfeiriodd y dynion at y gwasanaeth Cysylltu Bywydau lleol.

Yn Cysylltu Bywydau, mae oedolion sydd angen cymorth gofal cymdeithasol yn cael eu paru â gofalydd sydd wedi’i hyfforddi’n llawn, wedi’i reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn gweithio yn eu cartref eu hunain. Mae'r paru yn seiliedig ar gydnawsedd, ac mae'r ddau barti yn penderfynu gyda phwy maen nhw'n cael eu paru. Gyda’i gilydd, maen nhw'n rhannu bywyd cartref, teuluol a chymunedol, gyda’r bobl sy’n ceisio cymorth, naill ai yn ymweld yn rheolaidd â gofalydd Cysylltu Bywydau yn ei gartref neu, yn achos Paul a Richard, yn byw yno’n barhaol ac yn dod yn rhan o’r teulu.

Roedd y mis cyntaf gyda Tina yn emosiynol iawn i'r gefeilliaid wrth iddyn nhw ymdrechu i ddod i delerau â marwolaeth eu modryb nhw, yn ogystal â bywyd newydd ac anghyfarwydd. Yn fuan wedyn, daeth y cyfyngiadau symud cyntaf oherwydd Covid-19 a ddaeth â phryderon newydd - sut byddai hyn yn effeithio ar drefniadau'r angladd? A fyddai teulu a ffrindiau hyd yn oed yn gallu bod yn bresennol? A beth am y dyfodol – ble roedden nhw’n mynd i fyw yn y tymor hir? A fydden nhw'n cael eu gwahanu?

Ac eto, gyda chymorth amyneddgar, ymroddedig a thosturiol Tina, fesul tipyn, dechreuodd y gefeilliaid adeiladu bywyd newydd. Gwnaeth Tina hi’n glir nad oedd ganddi hi unrhyw fwriad o’u gwahanu nhw, ac y gallen nhw aros gyda hi cyhyd ag y dymunen nhw. Fe ddangoson nhw wydnwch aruthrol gydag ymdopi â’r galar o golli anwylyd mor agos, yn ogystal â'r dieithrwch dwys a chlawstroffobia oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19.

Fe ddechreuon nhw dyfu mewn ffyrdd eraill hefyd. Roedd modryb y gefeilliaid wedi bod yn amddiffynnol iawn, a oedd yn golygu nad oedden nhw wedi cael cyfle i ddysgu rhai o’r sgiliau sydd eu hangen i fyw bywyd annibynnol. Mae’r egwyddorion sy’n sail i Cysylltu Bywydau yn ymwneud â grymuso pobl sy’n cael cymorth, a gydag arweiniad Tina, dechreuodd Paul a Richard ffynnu.

Dysgon nhw sgiliau ymarferol fel coginio a dechreuon nhw brofi bywyd mewn ffordd lawnach, hyd yn oed drwy gydol y pandemig, gan ddod yn fwy egnïol ac archwilio'r awyr agored drwy gasglu ffrwythau gwyllt a threulio amser gyda cheffylau Tina. Roedd ganddyn nhw hefyd lawer mwy o lais yn y ffordd roedden nhw’n byw, gan fynegi eu dymuniadau a’u huchelgeisiau nhw a dod i gytundeb ar y cyd â Tina ynglŷn â sut i gyrraedd eu nodau nhw.

“Ers i ni gwrdd â Tina, mae ein bywydau ni wedi newid cymaint! Rydyn ni'n dysgu sgiliau newydd drwy'r amser a mecanweithiau ymdopi ar gyfer rheoli pryder a galar. Am y tro cyntaf yn ein bywydau, ni sy'n rheoli sut olwg sydd ar ein gofal a'n cymorth ni. Rydyn ni wedi profi cymaint o bethau newydd gyda’n gilydd fel teulu ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.

“Rydyn ni’n adeiladu ein hyder a'n sgiliau ni drwy'r amser ac yn goresgyn ofnau hirsefydlog, yn enwedig yn y gegin, a nawr rydyn ni wrth ein bodd yn ymarfer paratoi ein saig unigryw o spaghetti bolognese gyda help Tina.”

Pan glywodd tîm Stacey Dooley am stori’r gefeilliaid, fe gysyllton nhw â'r brodyr a gwneud trefniadau i’w cyfarfod yn eu cartref nhw, lle gafodd eu stori nhw ei recordio ym mis Rhagfyr y llynedd. Cafodd y bennod ei rhyddhau yr wythnos hon ac mae ar gael ar wefan y BBC. https://www.bbc.co.uk/sounds/brand/p08rdvrk

Mae darparwr lleol Cysylltu Bywydau, Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru, yn chwilio am ragor o ofalyddion i gefnogi ei wasanaeth cynyddol.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae profiad Tina, Paul a Richard yn dangos sut y gall bywyd fod ar ôl marwolaeth anwylyd. I oedolion ag anghenion cymorth sydd wedi byw gydag aelodau’r teulu ers amser maith, gall Cysylltu Bywydau gynnig llwybr i fywyd cyfoethog, llawn ac annibynnol.”

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalydd Cysylltu Bywydau, gallwch chi ffonio Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru ar 01443 864784 neu chwilio am Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru ar-lein. https://www.caerphilly.gov.uk/cysylltubywydau



Ymholiadau'r Cyfryngau