News Centre

Cyllideb yn ‘cynorthwyo a diogelu'r gymuned yn ystod cyfnod anodd’

Postiwyd ar : 13 Ion 2022

Cyllideb yn ‘cynorthwyo a diogelu'r gymuned yn ystod cyfnod anodd’

Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi datgelu set o gynigion cyllideb uchelgeisiol ar gyfer 2022/23.

​Er gwaethaf gorfod dod o hyd i tua £17 miliwn i gwrdd â phwysau costau anochel oherwydd chwyddiant, mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys buddsoddi £10 miliwn ac yn diogelu gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau wrth i'r awdurdod adfer ar ôl y pandemig cyfredol.


;

Mae'r Cyngor wedi datblygu ei gynigion cyllidebol dros y misoedd diwethaf, a bydd y rhain yn cael eu hystyried yn ystod cyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf (dydd iau 19 Ionawr).

Mae'r gyllideb yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 2.5% yn Nhreth y Cyngor, sydd ymhell islaw cyfradd chwyddiant a'r cynnydd lleiaf ers nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd wythnosol o 59c ar gyfer eiddo Band D ar gyfartaledd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Rydyn ni wedi creu cyllideb ddrafft sy'n ein galluogi ni i ddiogelu gwasanaethau allweddol, diwallu anghenion ein cymunedau ni a llunio llwybr i'r sefydliad wrth i ni adfer ar ôl y pandemig coronafeirws.

“Rydyn ni hefyd wedi gosod cynlluniau cyffrous ar gyfer cyfleoedd buddsoddi mawr gwerth cyfanswm o £10 miliwn, gan gynnwys £6 miliwn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i roi cymorth i'n trigolion mwyaf agored i niwed.

“Mae'r gyllideb hon wir yn dangos ein bod ni'n ‘Gofalu am Gaerffili’, ac rydyn ni'n cynorthwyo ac yn diogelu'r gymuned yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'n bwysig bod pobl leol yn dweud eu dweud ar ein cynlluniau ni ac yn helpu llunio'r gyllideb, felly bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio 13 Ionawr, a byddwn i'n annog cynifer o bobl â phosibl i ddweud eu dweud.”

Bydd trigolion yn gallu cymryd rhan a chyflwyno adborth mewn nifer o ffyrdd. Mae taflen yn cael ei dosbarthu i bob cartref yn y Fwrdeistref Sirol gyda manylion am yr ymgynghoriad a sut i gymryd rhan. Mae gwybodaeth ac arolwg ar-lein hefyd ar gael ar wefan y Cyngor – www.caerffili.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros Gyllid, “Mae'r setliad ariannol cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod y darlun cyffredinol yn edrych yn gadarnhaol ar gyfer y 12 mis nesaf. Wedi dweud hynny, mae heriau o'n blaenau ni, gan gynnwys llawer o bwysau costau anochel megis cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol a lefelau chwyddiant ar eu huchaf ers 10 mlynedd, ond mae ein rhaglen drawsnewid uchelgeisiol ni yn allweddol i'n helpu ni i aros yn ariannol gadarn.

“Y neges allweddol yw ein bod ni'n buddsoddi yn ein cymuned ni, yn diogelu gwasanaethau a'r cyhoedd rhag toriadau,” ychwanegodd.

Dyma rai o nodweddion allweddol cynigion y gyllideb:

  • Buddsoddi bron i £10 miliwn mewn gwasanaethau
  • Bydd £6 miliwn o hyn yn cael ei dargedu at wasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys addewid i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol
  • £250,000 ar gyfer cynllun prentisiaeth newydd y Cyngor
  • Buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau diogelwch y cyhoedd i gynyddu capasiti mewn timau allweddol megis safonau masnach, gorfodi ac iechyd yr amgylchedd
  • Buddsoddi mewn mesurau rheoli chwyn ychwanegol
  • Buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol
  • £235,000 i helpu targedu gwaith atal llifogydd 

Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft yn ei gyfarfod ddydd Mercher 19 Ionawr cyn i gynigion terfynol y gyllideb gael eu hystyried ym mis Chwefror.

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma: www.caerffili.gov.uk



Ymholiadau'r Cyfryngau