News Centre

Artist ifanc yn gwneud ymddangosiad cyntaf yn Nhŷ Weindio, Caerffili

Postiwyd ar : 27 Ion 2022

Artist ifanc yn gwneud ymddangosiad cyntaf yn Nhŷ Weindio, Caerffili
Mae arddangosfa gelf newydd bellach ar agor yn Nhŷ Weindio, Tredegar Newydd.

Mae Hannah Newell, 23, wedi ymroi tair blynedd o’i bywyd i’r arddangosfa, “O Amgylch y Byd mewn Wythdeg o Beintiadau”, sydd bellach ar agor yn y Tŷ Weindio, Tredegar Newydd.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys darnau acrylig trawiadol, wedi’u hysbrydoli gan amser yr artist ym Malawi, lle bu’n byw gyda’i theulu hi am 12 mlynedd. Mae Hannah yn egluro, “Treuliais i'r rhan fwyaf o fy mhlentyndod i ym Malawi, ac mae’r atgofion o'r heulwen Affricanaidd a phatrymau lliwgar i’w gweld drwy fy ngwaith i.

“Cefais i gymaint o hwyl yn rhoi’r arddangosfa hon (fy arddangosfa gyntaf) at ei gilydd; gobeithio y byddwch chi'n ei mwynhau.”

Mae’r arddangosfa hon, sy’n addas i deuluoedd, ar agor yn Oriel Ddwyreiniol y Tŷ Weindio rhwng 11 Ionawr a 12 Chwefror 2022, dydd Mawrth i ddydd Gwener 10am i 4pm a dydd Sadwrn 11am i 4pm. Mae'r peintiadau gwreiddiol ar gael i'w prynu, ynghyd â dewis eang o wrthrychau addurno'r cartref sy'n atgynhyrchu rhai o'r darnau gwreiddiol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau