News Centre

Mae prosiect Wood LAB Pren Caerffili yn ysbrydoli myfyriwr prifysgol ifanc

Postiwyd ar : 27 Ion 2022

Mae prosiect Wood LAB Pren Caerffili yn ysbrydoli myfyriwr prifysgol ifanc
Ymunodd Cynghorau Bwrdeistref Sirol Caerffili a Blaenau Gwent â Choed Cymru yn 2018 i annog a hyrwyddo’r defnydd o bren o ffynonellau lleol.

Mae Cwm a Mynydd wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.     Mae prosiect Wood LAB Pren yn dod o dan y prosiect datblygu gwledig ehangach, Cwm a Mynydd, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Wedi’i leoli yn Aberbargod, nod y prosiect yw gwella rhwydwaith cadwyni cyflenwi pren y Fwrdeistref Sirol drwy rannu gwybodaeth, ymchwil a datblygu. Bydd y prosiect yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2021.

Mae'r prosiect hyd yma wedi canolbwyntio ar bren a ddefnyddir mewn dodrefn, i amlygu sut y gellir troi pren gwerth isel, dimensiwn bach o wahanol rywogaethau yn gynhyrchion gwerth ychwanegol uchel. Gan weithio gyda dylunwyr lleol, gweithwyr coed, coedwigwyr a sectorau eraill o’r diwydiant coed, mae’r prosiect wedi hwyluso nifer o weithdai addysgiadol ac ymchwil yn ei ganolfan yn Aberbargod.

Nodau’r prosiect yw ‘Addysgu, Arloesi ac Ysbrydoli’ pobl yn sector pren y rhanbarth. Trwy ddealltwriaeth well o goetiroedd sy'n cael eu rheoli'n dda a chymorth ar gyfer y diwydiannau cysylltiedig, gallai pren o Gymru gyflenwi deunydd cynaliadwy sy’n tyfu ar gyfer anghenion y presennol a’r dyfodol sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd ac sy’n creu cyflogaeth sgiliau uwch yn y broses.

Mae busnesau, sefydliadau addysgol ac unigolion fel ei gilydd sy’n gweithio yn y sector coed wedi dangos diddordeb mawr yn Wood LAB Pren.

Un o'r unigolion sydd wedi dangos diddordeb ym mhrosiect Wood LAB Pren yw Phoebe Oldfield. Ymunodd Phoebe, sy’n wreiddiol o Aberbargod ei hun, â’r prosiect ar flwyddyn lleoliad gwaith o Brifysgol Nottingham Trent lle mae hi, ar hyn o bryd, yn astudio gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn Dylunio Dodrefn.

Ers ymuno â’r prosiect ym mis Gorffennaf 2020, mae Phoebe wedi ennill gwybodaeth werthfawr yn amrywio o goedwigaeth, dylunio a gweithgynhyrchu drwy’r lleoliad ‘ymarferol’. Mae rhai o’r prosiectau cymunedol y mae Phoebe wedi gweithio arnyn nhw yn cynnwys dylunio a gwneud tlysau ar gyfer Gwobrau 2021 y Gymdeithas ar gyfer Cynhyrchion Adeiladu Cynaliadwy a chynorthwyo i ddylunio a gweithgynhyrchu deg bwrdd ar gyfer Parc Cwm Darren. Mae’r rhain, ynghyd â darnau eraill y gweithiodd Phoebe arnyn nhw, i’w gweld yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cwm Darren.

Dyma beth ddywedodd Phoebe am ei hamser gyda’r prosiect, “Roedd fy lleoliad gyda Wood LAB Pren yn brofiad anhygoel a roddodd gyfleoedd enfawr i mi ddysgu am gadwyni cyflenwi pren yn ogystal â fy nghyflwyno i gymaint o unigolion creadigol yn fy nhref enedigol i, sydd wedi wir fy ysbrydoli i.

“Mae’r amser hwn wedi fy helpu i sylweddoli beth sy’n fy ysbrydoli i fwyaf a’r math o rôl ddylunio rydw i am ei chael yn y pen draw – rydw i’n ystyried dilyn gyrfa sy’n canolbwyntio ar ddarnau dodrefn pwrpasol.”

Ychwanegodd Rheolwr y Prosiect, Dylan Jones, “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Phoebe dros y deuddeg mis diwethaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod eithriadol ac anodd hwn. Mae’r lleoliad hwn wedi dangos i mi fod yna lawer o bobl gyda doniau sydd heb eu gwireddu yn ein Bwrdeistref Sirol ni a allai, o gael y cyfle, gyrraedd eu llawn botensial creadigol nhw a dod â syniadau a gweledigaeth newydd i’r rhanbarth.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Instagram Wood Lab Projects a sianel Youtube Cwm a Mynydd.


Ymholiadau'r Cyfryngau