News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cynigion i greu canolfan i ddysgwyr agored i niwed

Postiwyd ar : 26 Ion 2022

Cabinet yn cymeradwyo cynigion i greu canolfan i ddysgwyr agored i niwed
Heddiw (26 Ionawr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynigion i ddatblygu cynlluniau i greu canolfan i ddysgwyr agored i niwed, a fydd yn rhan o ddarpariaeth y portffolio ar safle hen Ysgol Gyfun Pontllan-fraith.
 
Fe wnaeth aelodau'r Cabinet, fel rhan o'u penderfyniad, ystyried canlyniadau ymarfer ymgysylltu â'r gymuned, lle roedd 80% o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion. Bydd cais cynllunio ac achos busnes llawn nawr yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
 
Os bydd caniatâd cynllunio yn cael ei roi, ac os bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo achos busnes y Cyngor, bydd y cyfleuster yn helpu datblygu'r ddarpariaeth bresennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, darpariaeth chwaraeon dan do ac awyr agored, yn ogystal â mynediad at gymorth o'r radd flaenaf. Byddai defnydd cymunedol o'r cyfleusterau hefyd ar gael y tu allan i oriau ysgol.
 
Meddai'r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddysgu a Hamdden, “Byddai'r cyfleuster arfaethedig hwn yn ychwanegu at y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn bryd ac yn dod yn ganolfan ragoriaeth i helpu dysgwyr agored i niwed o bob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Byddai'r ganolfan nid yn unig yn darparu lleoliad o ansawdd uchel a chymorth pwrpasol i ddysgwyr, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i'r gymuned ehangach elwa ar ei chyfleusterau technoleg gwybodaeth a chwaraeon y tu allan i oriau ysgol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau